Uned 5: Rheoli Ffrwythlondeb Buches a Buchod Cyfnewid

Cynyddu cyfraddau cenhedlu

 

Mewn buches o 100 o wartheg, byddai 60% o feichiogi ym mhob gwasod neu oestrws yn sicrhau dim ond 3 buwch hesb mewn cyfnod ffrwythloni o 12 wythnos (ond 16 o fuchod hesb pe bai’r cyfnod ffrwythloni yn cael ei dynhau i 6 wythnos – sy’n amlygu un anfantais bosibl o geisio cyflawni lloia tynn iawn). Byddai beichiogrwydd o 50% a 40% yn arwain at 6 a 14 o fuchod gwag yn y drefn honno dros yr un cyfnod ffrwythloni o 12 wythnos, sy’n amlygu gwerth beichiogi da.