Ffactorau sy’n Effeithio ar Ddiwydiant Defaid y DU
Edrychwch ar y diagram hwn sy’n dangos y ffactorau sy’n effeithio ar ddiwydiant defaid y DU.
Cliciwch ar bob pwynt i gael esboniad byr.
Mae’r ffactorau hyn yn rhyngweithio mewn ffyrdd cymhleth i lunio diwydiant defaid y DU, gan ddylanwadu ar arferion cynhyrchu, dynameg y farchnad a chynaliadwyedd cyffredinol ffermio defaid yn y wlad.
Galw’r Farchnad
Gall amrywiadau yng ngalw prynwyr am gynhyrchion defaid, e.e. cig oen a gwlân, effeithio ar y diwydiant yn sylweddol. Mae newidiadau mewn dewisiadau deietegol, amodau economaidd sy’n effeithio ar incwm gwario, a newidiadau diwylliannol tuag at neu oddi wrth gynhyrchion defaid yn chwarae rolau.
Polisïau’r Llywodraeth
Mae polisïau, cymorthdaliadau a rheoliadau amaethyddol a osodwyd gan Lywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd (cyn Brexit) wedi llunio’r diwydiant. Gall y rhain ddylanwadu ar feysydd fel arferion ffermio, defnydd tir, cefnogaeth ar gyfer rhaglenni bridio, a thariffau allforio/mewnforio.
Clefydau a Bioddiogelwch
Cafodd achosion o glefydau fel Clefyd y Traed a’r Genau a feirws y Tafod Glas effeithiau difrifol ar y diwydiant defaid, gan effeithio ar gynhyrchu a mynediad i’r farchnad. Mae mesurau bioddiogelwch yn hanfodol i atal a rheoli achosion o’r fath.
Ffactorau Hinsawdd ac Amgylcheddol
Mae patrymau tywydd, argaeledd porfa a rheoliadau amgylcheddol yn effeithio ar ffermio defaid. Gall newidiadau yn yr hinsawdd effeithio ar amodau pori, cyfraddau goroesi ŵyn bach ac iechyd cyffredinol y ddiadell.
Datblygiadau Technolegol
Mae datblygiadau mewn arferion ffermio, technolegau bridio, gofal milfeddygol ac awtomeiddio wedi effeithio ar gynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn y diwydiant defaid. Gall y rhain ddylanwadu ar gostau, faint sy’n cael ei gynhyrchu a phroffidioldeb cyffredinol.
Masnach Fyd-eang a Chystadleuaeth
Mae diwydiant defaid y DU yn cystadlu’n fyd-eang, o ran allforion a mewnforion. Gall cytundebau masnach, tariffau a ffactorau geowleidyddol greu cyfleoedd neu heriau i ffermwyr defaid y DU.
Tueddiadau a Dewisiadau Defnyddwyr
Gall newidiadau yn newisiadau defnyddwyr tuag at gynhyrchion organig, lleol neu rai a gynhyrchir yn gynaliadwy effeithio ar sut mae cynhyrchion defaid yn cael eu marchnata a’u gwerthu. Mae hyn yn dylanwadu ar ddulliau cynhyrchu ac arferion rheoli ffermydd.
Argaeledd Llafur
Gall newidiadau o ran y gweithwyr sydd ar gael – o ganlyniad i ffactorau fel tueddiadau mudo, cyfreithiau cyflogaeth a demograffeg – effeithio ar lafur ar ffermydd defaid.
Technoleg a Seilwaith
Mae datblygiadau seilwaith, e.e. rhwydweithiau trafnidiaeth, lladd-dai a chyfleusterau prosesu, oll yn effeithio ar effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi o’r fferm i’r farchnad. Mae datblygiadau technolegol mewn logisteg a storio hefyd yn chwarae rôl ac wedi gwella’r broses yn gyffredinol.
Brexit a Chysylltiadau Masnach
Mae ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno deinameg newydd o ran perthnasoedd masnach, cymorthdaliadau a fframweithiau rheoleiddio sy’n effeithio ar y diwydiant defaid. Mae newidiadau mewn cytundebau masnach a mynediad i farchnadoedd yn ystyriaethau sylweddol.