Uned 5: Y Farchnad Ŵyn

Gwerthuso systemau pesgi ŵyn

Pesgi ar Borfa
Trosolwg:

  • Mae pesgi ar borfa yn gyffredin iawn, yn enwedig mewn ardaloedd fel Cymru, yr Alban a gorllewin Lloegr lle mae porfeydd glas, llawn maetholion yn doreithiog. Bydd yr ŵyn yn pesgi’n bennaf ar borfa o ansawdd uchel.

Nodweddion Allweddol:

  • Bydd ŵyn yn pori ar borfeydd parhaol sydd fel arfer yn cael eu gwella gyda meillion neu rygwellt i gynyddu’r gwerth maethol.
  • Gellir defnyddio systemau pori cylchdro i sicrhau’r twf a’r defnydd gorau posibl o borfa.

Manteision:

  • Costau bwyd isel, gan fod porfa yn adnodd naturiol, toreithiog.
  • Cynhyrchir cig coch o ansawdd uchel sy’n berffaith ar gyfer y galw cynyddol am gynhyrchion sy’n cael eu bwydo ar borfa.
  • Mae’n amgylcheddol gynaliadwy ac yn cyd-fynd â ffocws y DU ar arferion ffermio adfywiol.

Heriau:

  • Cyfraddau twf arafach efallai, o’u cymharu â systemau porthi gydag atchwanegion, yn enwedig yn ystod tymhorau gwlyb neu oer.
  • Amrywiaethau tymhorol o ran ansawdd porfa, yn enwedig yn ystod y gaeaf pan fydd tyfiant yn dirywio.

Pesgi ar Gnydau Porthiant
Trosolwg:

  • Mae pesgi ŵyn ar gnydau porthiant, e.e. bresych deilio, maip, rwdins, neu rêp porthi yn gyffredin yn yr hydref a’r gaeaf. Mae’r cnydau hyn yn cynnig maeth o ansawdd uchel pan fydd porfa yn brin.

Nodweddion Allweddol:

  • Bydd ŵyn yn pori’n uniongyrchol ar gnydau porthiant wedi’u plannu a ddefnyddir yn aml wrth gylchdroi cnydau neu fel cnydau gorchudd.
  • Fel arfer mae’r cnydau hyn yn cael eu plannu ar ôl cynaeafu grawnfwydydd ac yn cynnig ffynhonnell fwyd ddibynadwy yn ystod misoedd oer.

Manteision:

  • Defnyddio tir yn effeithlon trwy gyfuno cynhyrchu cnydau a magu anifeiliaid.
  • Mae’n cynnig deiet egni uchel a phrotein uchel yn ystod y gaeaf pan fydd porfa yn brin.

Heriau:

  • Mae angen rheoli cylchdroadau pridd a chnydau yn ofalus er mwyn peidio difrodi’r tir.
  • Costau sy’n gysylltiedig â sefydlu cnydau porthiant a gofalu am ffensys ar gyfer pori stribedi neu gaeau.

 

Dwysfwyd yn ôl yr Angen

Trosolwg:

  • System besgi dan do, lle mae ŵyn yn cael lloches a bwyd egni uchel yn seiliedig ar ddwysfwyd. Fe’i defnyddir i gael cyfraddau twf cyson, yn barod at y farchnad, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

Nodweddion Allweddol:

  • Mae’r ŵyn yn cael lloches a dwysfwyd dan do gyda rhywfaint o borthiant garw, e.e. gwair neu wellt.
  • Mae’r system hon yn rhoi rheolaeth fanwl dros gynyddu pwysau a dyddodiad braster, gan sicrhau bod ŵyn yn cwrdd â gofynion y farchnad.

Manteision:

  • Cyfraddau twf cyflymach o’i chymharu â systemau pori, gan leihau amser nes cyrraedd y farchnad.
  • Ansawdd a maint cyson yr ŵyn a gafodd eu pesgi, sy’n ddelfrydol ar gyfer cwrdd â gofynion penodol y farchnad.
  • Llai o ddibyniaeth ar y tywydd, yn enwedig yn y gaeaf pan fydd ansawdd y borfa wedi dirywio.
  • Dim effaith ar y tir, sy’n gallu cael seibiant dros fisoedd y gaeaf yn barod ar gyfer wyna yn y gwanwyn.

Heriau:

  • Costau uwch sy’n gysylltiedig â bwydo, lloches a llafur.
  • Gall systemau dwys godi pryderon am les anifeiliaid o ran cloffni.

Pesgi ar y Mynydd a’r Ucheldir
Trosolwg:

  • Ar ardaloedd mynyddig a’r ucheldir, yn enwedig yng Nghymru, yr Alban a gogledd Lloegr, mae ŵyn yn aml yn cael eu rhoi i’w pesgi ar borfa arw neu borfeydd o ansawdd isel. Rhai o nodweddion yr ardaloedd hyn yw ffrwythlondeb gwael y pridd a thywydd garw.

Nodweddion Allweddol:

  • Ŵyn yn pori ar laswellt caled, grug, a phorthiant eraill o ansawdd isel, yn aml mewn systemau llai dwys.
  • Gellir defnyddio porthiant atodol ar ddiwedd yr hydref neu’r gaeaf i roi hwb i’r pesgi.

Manteision:

  • Defnyddio tir ymylol sy’n anaddas ar gyfer ffermio dwys.
  • Cynhyrchu cig heb lawer o fraster gyda blas unigryw, sy’n aml yn cael ei farchnata fel cig oen o ansawdd uchel neu bremiwm oherwydd natur lai dwys y system.

Heriau:

  • Cyfraddau twf llawer arafach am fod gwerth maethol y tir pori yn is ar dir uchel.
  • Bydd angen dod ag ŵyn i lawr i borfeydd yr iseldir neu eu pesgi dan do yn ystod cam olaf eu twf efallai, os nad yw’r porthiant sydd ar gael yn ddigon.

Porfa a Dwysfwyd

Trosolwg:

  • Mae didol-borthi yn arferiad cyffredin i gyflymu twf ŵyn ifanc cyn eu diddyfnu, er mwyn cael dechrau da i’r pesgi. Ystyr hyn yw rhoi bwyd anifeiliaid egni uchel i’r ŵyn ond mae’n anhygyrch i’r mamogiaid. Byddant yn parhau i’w fwyta ar ôl diddyfnu, ochr yn ochr â phorfa.

Nodweddion Allweddol:

  • Didol-borthi yw rhoi dwysfwyd i ŵyn er mwyn iddynt gael mwy o faeth tra maent yn dal i sugno.
  • Gwneir hyn fel arfer ar ffermydd yr iseldir er mwyn gwella tyfiant cynnar, yn enwedig ŵyn a aned yn y gwanwyn.

Manteision:

  • Tyfu’n gyflym a phesgi ynghynt, gan leihau amser ŵyn ar borfa.
  • Llai o ddibyniaeth ar laeth mamogiaid fel bod pwysau ŵyn yn uwch ar adeg diddyfnu.

Heriau:

  • Mwy o gostau bwyd anifeiliaid a seilwaith ychwanegol er mwyn rheoli’r system didol-borthi.
  • Mae angen cydbwyso’r system yn ofalus er mwyn atal ŵyn rhag mynd yn rhy dew yn rhy ifanc.

Mae’r systemau pesgi ŵyn hyn yn adlewyrchu’r tirweddau amrywiol a’r arferion ffermio a geir ledled Prydain, o ffermydd dwys yr iseldir i systemau llai dwys yr ucheldir. Mae gan bob system fanteision a heriau gwahanol, sy’n ddibynnol ar yr adnoddau, yr amgylchedd a gofynion y farchnad.

Enillion Pwysau Byw Dyddiol (DLWG – Daily Live Weight Gain)

 

Mae hyn yn cyfeirio at enillion pwysau cyfartalog y dydd mewn anifeiliaid. Fe’i defnyddir i fonitro twf ac iechyd anifail. Mae’n helpu ffermwyr i asesu effeithiolrwydd eu cyfundrefnau bwydo a’u harferion rheoli cyffredinol wrth gyflawni’r cyfraddau twf a ddymunir.

Dyma dabl sy’n dangos DLWG ŵyn ar y gwahanol systemau yr ydym wedi’u trafod.

Glaswelltir o Ansawdd Gwael <100
Porfa Barhaol  100
Porfa o Ansawdd Uchel  >200
Cnydau Gwraidd 150-250
Dwysfwyd yn ôl yr Angen 150-250
Porfa a Dwysfwyd 200-300

Trin ŵyn

 

Mae’n bwysig iawn, nid yn unig am resymau iechyd anifeiliaid, bod ŵyn yn cael eu trin yn ofalus. Os yw gwlân yn cael ei dynnu, neu os yw ŵyn yn cael eu gwthio’n ormodol ac yn taro eu hunain yn erbyn trelars neu offer eraill, gallant sgriffio neu gleisio eu cyrff.

Gellir gweld anafiadau fel hyn ar garcas oen ar ôl iddo gael ei ladd ac os gwelir problemau o’r fath, caiff y ffermwr ei gosbi oherwydd yr amser a’r gwaith ychwanegol sy’n dod o orfod torri mwy o fraster oddi ar y carcas.

Wrth hofran dros y bocs isod, gallwch weld mwy o wybodaeth

Awgrymiadau i atal cleisio


Peidiwch â:

  • thrin neu symud defaid trwy dynnu ar eu gwlân. Daliwch y defaid o dan eu gên a’r llaw arall yn tywys y corff
  • gadael i ddefaid gael eu sathru pan fyddant mewn lorïau neu drelars
  • gadael i ddefaid ddringo dros ei gilydd mewn rhedfa ddidoli
  • gadael unrhyw wrthrychau miniog mewn rhedfeydd, trelars, neu gatiau