Dewis Å´yn ar Gyfer y Farchnad
Wrth ddewis ŵyn ar gyfer y farchnad, mae llawer o ddewisiadau neu ystyriaethau yn wynebu ffermwyr:
Pwysau a Maint
Cyflwr
Dylai ŵyn fod mewn cyflwr da gyda digon o ddatblygiad cyhyrau a gorchudd braster sy’n briodol ar gyfer gofynion y farchnad. Mae hyn yn effeithio ar raddfa a phris ŵyn.
Iechyd
Mae ŵyn iach yn hanfodol. Hefyd, mae sicrhau nad ydynt mewn unrhyw gyfnod adwaith ar ôl triniaeth yn bwysig, gan eu bod yn anaddas i’w bwyta gan bobl.
Dewisiadau’r Farchnad
Efallai bydd gan wahanol farchnadoedd ofynion penodol o ran maint, pwysau, oedran a brid yr ŵyn y mae’n well ganddynt eu prynu. Mae’n hanfodol deall beth yw’r gofynion hyn er mwyn sicrhau’r enillion mwyaf posibl ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
Ffactorau Tymhorol
Gall amseru gwerthu ŵyn i gyd-fynd â chyfnodau galw brig fod yn fuddiol. Er enghraifft, yn ystod y gwahanol wyliau crefyddol a grybwyllir yn y bennod flaenorol.
Å´yn ar Gyfer Cigydd
Yn aml, mae ŵyn yn cael eu prynu o’r farchnad da byw i fynd i mewn i fasnach fawr yr archfarchnadoedd. Ond weithiau bydd cigyddion yn prynu eu hŵyn o’r farchnad da byw hefyd. Yn aml, bydd gan y cigyddion eu cyfleusterau eu hunain i’w lladd a pharatoi’r carcas cig oen ar gyfer y siop.
Mae’r fideo isod yn dangos beth fyddai cigydd yn ei ddisgwyl o garcas oen.
 Barn personol y Cigydd sydd yn y fideo hwn ac nid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ŵyn Tew neu Ŵyn Stôr
Cyn gwerthu, mae’n rhaid i ffermwyr benderfynu a yw eu hŵyn yn ‘ŵyn tew’ neu’n ‘ŵyn stôr’.
| Ŵyn Tew | Ŵyn Stôr | |
| Diffiniad | Mae ŵyn tew, a elwir hefyd yn ŵyn wedi’u pesgi, yn ŵyn sydd â digon o ddatblygiad cyhyrau a gorchudd braster. Mae’r ŵyn hyn yn barod i’w lladd ar unwaith. | Ŵyn heb eu gorffen yw ŵyn stôr, heb orffen pesgi ac angen cael eu bwydo a thyfu’n fwy cyn cyrraedd cyflwr y farchnad. |
| Pwysau | Mae’r ŵyn hyn yn cyrraedd pwysau o 40-50 kg fel arfer, yn dibynnu ar ofynion y brid a’r farchnad. | Mae ŵyn stôr yn ysgafnach nag ŵyn tew, yn aml yn pwyso rhwng 25-39 kg, yn dibynnu ar yr oedran a’r brid. |
| Cyflwr | Mae gan ŵyn tew gydbwysedd da o gyhyrau a braster, sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer cynhyrchu cig. Mae’r gorchudd braster yn sicrhau bod y cig yn dyner ac yn flasus. | Mae llai o fraster ar ŵyn stôr fel arfer ac nid ydynt eto wedi datblygu’r gorchudd braster dymunol cyn eu lladd. |
| Marchnad | Fe’u gwerthir yn uniongyrchol i broseswyr, cigyddion neu mewn arwerthiannau lle cânt eu prynu ar gyfer eu lladd i gynhyrchu cig. | Fel arfer bydd ŵyn stôr yn cael eu gwerthu i ffermwyr eraill. |
| Pris | Mae ŵyn tew fel arfer yn gwerthu am brisiau uwch nag ŵyn stôr am eu bod yn barod ar gyfer y farchnad ac nid oes angen rhoi mwy o fwyd iddynt na’u pesgi. | Yn gyffredinol, mae ŵyn stôr yn cael eu gwerthu am bris is am nad ydynt yn barod i’w lladd ac mae angen buddsoddiad pellach i’w porthi. |
Rhesymau Ffermwr Dros Werthu ei Ŵyn fel Ŵyn Stôr
Gall gwerthu ŵyn fel ŵyn stôr fod yn benderfyniad strategol yn seiliedig ar gyfuniad o ffactorau economaidd, amgylcheddol a gwaith y fferm. Mae sefyllfa pob ffermwr yn unigryw, felly mae’r dewis i werthu ŵyn stôr yn aml yn cael ei deilwra i anghenion ac amgylchiadau penodol. Edrychwch ar y gwahanol resymau isod.
Pris ac Argaeledd Bwyd Anifeiliaid
- Prinder Adnoddau: Efallai na fydd gan ffermwr ddigon o borfa, porthiant, na phorthiant atodol i barhau i fagu’r anifeiliaid i fod yn ŵyn tew. Gallai hyn fod oherwydd prinder tymhorol, tywydd gwael, neu ddim digon o dir.
- Costau Bwyd Uchel: Os yw cost bwyd anifeiliaid yn rhy uchel, efallai na fydd o werth economaidd i gadw’r ŵyn nes eu bod wedi gorffen pesgi. Mae’r ffermwr yn osgoi’r costau hyn drwy eu gwerthu fel ŵyn stôr.
Gofynion Llif Arian
- Incwm ar Unwaith: Mae gwerthu ŵyn fel ŵyn stôr yn dod ag arian ynghynt, a all fod yn hanfodol ar gyfer talu costau gweithredu, e.e. prynu porthiant anifeiliaid eraill, talu biliau, neu fuddsoddi mewn gwelliannau i’r fferm.
- Ad-dalu Dyledion: Os oes gan ffermwr ddyledion neu fenthyciadau, gall godi’r arian angenrheidiol i wneud taliadau yn ddi-oed drwy werthu ŵyn stôr.
Amodau’r Farchnad
- Prisiau Ffafriol: Os yw pris y farchnad am ŵyn stôr yn uchel, efallai bydd yn fwy proffidiol i’r ffermwr eu gwerthu’n gynnar yn hytrach na chymryd y risg a’r costau ychwanegol o’u pesgi.
- Prisiau Ansicr yn y Dyfodol: Os yw ffermwr yn rhagweld y gallai prisiau ŵyn tew ostwng yn y dyfodol oherwydd amrywiadau yn y farchnad neu gynnydd yn y cyflenwad, gall eu gwerthu fel ŵyn stôr rhag ofn y caiff lai o elw yn nes ymlaen.
Ystyriaethau Tymhorol
- Y Tywydd: Mewn ardaloedd sy’n cael gaeafau garw neu dymhorau sych, gall pesgi ŵyn fod yn waith heriol oherwydd prinder bwyd anifeiliaid neu amodau pori gwael. Gall gwerthu ŵyn stôr cyn amodau o’r fath atal colledion i’r ffermwr.
- Cylch Wyna: Mae rhai ffermwyr yn gwerthu ŵyn fel ŵyn stôr i gael mwy o le ac adnoddau ar gyfer y tymor wyna nesaf, er mwyn sicrhau bod y mamogiaid a’r ŵyn newydd yn derbyn digon o ofal a maeth.
Twf
Prif ddiben magu anifeiliaid fferm yw cynhyrchu cig i’w fwyta gan bobl. Mae cig yn cynnwys cyhyrau heb lawer o fraster ynghyd ag esgyrn a braster.
Wrth i anifeiliaid dyfu, mae eu meinweoedd yn datblygu ar gyflymder gwahanol. Yr asgwrn sy’n datblygu yn gyntaf, yna’r cyhyrau ac yna braster. Mae hyn yn golygu bod cymeriant ynni anifail yn cael ei ddefnyddio ar dwf yr esgyrn yn gyntaf, yna ar ddatblygiad y cyhyrau. Unwaith y bydd yr anghenion hyn yn cael eu diwallu, bydd unrhyw egni sydd ar ôl yn cael ei storio fel braster.
Gan fod cynhyrchu braster ar ŵyn yn costio mwy, mae’n bwysig sicrhau eu bod yn gadael y fferm yn syth pan fyddant yn barod. Os na, byddant yn cael eu cadw am gyfnod hirach sy’n anfantais i’r ffermwr oherwydd bydd angen parhau i’w bwydo nes eu bod wedi mynd.
Mae’r graff hwn yn dangos sut mae’r asgwrn, y cyhyrau heb lawer o fraster arnynt, a’r braster yn tyfu, un ar ôl y llall.
Rhannau Allweddol o Gorff Oen
Mae’r ddelwedd hon yn dangos rhannau allweddol o gorff oen. Bydd dysgu am y rhannau hyn yn eich helpu i ddeall sut i asesu braster a chydffurfiad yr anifail.

Gwddf
Ysgwydd
Asen
Lwyn
Lwyn-ôl
Coes
Brest
Ystlys
Sut i Benderfynu a yw Oen yn Oen Tew
Os oes gan fferm borfa a/neu borthiant digonol i besgi ŵyn yn llawn, dyna’r strategaeth orau gan amlaf. Gwyliwch y fideo isod er mwyn gweld sut i wirio oen i weld a yw’n barod i gael ei werthu fel oen tew.
Dosbarthiadau
Sut mae dosbarthiadau yn gweithio? Wrth hofran dros y bocsys isod, gallwch weld mwy o wybodaeth.
Cydffurfiad
Cydffurfiad
Tewdra (Braster)
Tewdra (Braster)
Pwysau
Pwysau
Cydffurfiad
Darllenwch y tabl hwn i’ch helpu i ddychmygu’r ysgwydd a’r lwyn wrth asesu cydffurfiad.
| E | Ni ellir teimlo cnapiau’r asgwrn cefn o gwbl, cefn crwn cryf iawn, ysgwyddau llydan iawn. Cyhyrog iawn. |
| U | Cnapiau’r asgwrn cefn i’w teimlo ychydig bach, cefn crwn cryf, digon o gyhyrau ond nid mor amlwg ag E. |
| R | Cnapiau’r asgwrn cefn yn llai amlwg, y cnawd yn creu proffil gwastad o dan y dwylo. |
| O | Cnapiau’r asgwrn cefn i’w teimlo’n amlwg, ychydig iawn o gnawd o amgylch yr ysgwydd a’r lwyn. |
| P | Cnapiau’r asgwrn cefn i’w teimlo’n amlwg iawn ar y lwyn, a dyma bwynt uchaf corff yr oen. Dim llawer o gyflawnder o gnawd i lawr o’r ysgwyddau hyd y cefn, gan fod y siâp yn onglog. |