Y bridiau gwahanol
Nodweddion cyffredinol y prif fridiau cig eidion:
Mae gan y bridiau trymach gynnydd pwysau byw uwch, ond mae ganddynt hefyd fwy o achosion o dystocia (anhawster lloia) a mwy o farwolaethau ymhlith lloi o gymharu â bridiau llai.
Mae gan fridiau cyfandirol gyfnodau cario sydd ychydig yn hirach na bridiau brodorol Prydeinig.
Mae gan loi cyfandirol bwysau geni uwch.
Mae gan fridiau sy’n tyfu’n gyflymach bwysau byw lloi 200 a 400 diwrnod uwch.
Mae bridiau Prydeinig traddodiadol yn tueddu i aeddfedu’n gynnar ac yn pesgi’n gynnar ac yn llai o bwysau byw.
Gadewch i ni edrych yn fwy manwl ar y gwahanol fridiau
Dyna rai o’r bridiau gwartheg cig eidion cyffredin sydd i’w cael yn y DU.
Mae gan bob un ohonynt wahanol ddibenion ac yn gweddu i systemau a ffermydd gwahanol.
I gael rhagor o wybodaeth am bob brîd, ewch i wefannau’r gwahanol gymdeithasau gwartheg.



















