Uned 4: Cyflwyniad i Systemau Pesgi Gwartheg Cig Eidion

Gwybodaeth am yr uned

Mae systemau pesgi gwartheg cig eidion yn cyfeirio at yr arferion rheoli a’r dulliau bwydo a ddefnyddir i dewhau gwartheg ar gyfer y farchnad ar eu pwysau a’u cyflwr gorau posibl. 

Mae systemau pesgi gwartheg cig eidion yn cynnwys tair prif system: 

  • Systemau dwys 
  • Systemau lled-ddwys 
  • Systemau llai dwys 

Mae ffactorau allweddol yn cynnwys: 

  1. Systemau dwys (12-15 mis): Mwy dibynnol ar ddwysfwydydd, yn aml yn addas ar gyfer bridiau sy’n tyfu’n gyflymach. 
  1. Systemau lled-ddwys (15-20 mis): Yn cyfuno porthiant gyda chyfnod gaeaf dan do a gorffeniad dwysfwyd. 
  1. Systemau llai dwys (20+ mis): Yn canolbwyntio ar besgi ar laswellt, gyda chyfraddau twf arafach.   

Yn yr uned hon, byddwn yn edrych ar bob system yn fanylach.

Awdur: Sara Roberts

Dangos mwy

Cynnwys yr uned

Uned 4: Cyflwyniad i Systemau Pesgi Gwartheg Cig Eidion