Cynnwys yr uned
Uned 3: System Buchod Sugno a Ffynonellau Gwartheg Stôr
0/3
Uned 3: System Buchod Sugno a Ffynonellau Gwartheg Stôr

Magu lloi o fuchesi godro

Bwydo â cholostrwm (y 24 awr gyntaf)

  • Pwysigrwydd: Rhaid i loi gael colostrwm (llaeth cyntaf y fuwch) o fewn 6 awr gyntaf eu bywyd. Mae colostrwm yn llawn gwrthgyrff a maetholion sy'n darparu imiwnedd ac egni hanfodol.
  • Maint: Anelwch at tua 10% o bwysau corff y llo mewn colostrwm o fewn y 24 awr gyntaf (3-4 litr fel arfer ar gyfer llo cyffredin).
  • Ansawdd: Sicrhewch fod y colostrwm yn dod o fuwch iach a’i fod o ansawdd da. Gellir ei fwydo o botel, neu os oes angen, trwy diwb stumog.

 

Byddai hyn yn cael ei wneud pan fyddai'r llo gyda'i fam.

Bwydo â Llaeth (2-8 Wythnos)

  • Amnewidyn Llaeth: Ar ôl cael eu bwydo â cholostrwm, mae lloi fel arfer yn cael eu bwydo âg amnewidyn llaeth. Amnewidyn Llaeth: Dewiswch amnewidyn llaeth o ansawdd uchel yn ei le sydd ag o leiaf 20-22% o brotein a 15-20% o fraster ynddo, ond gallant fod yn seiliedig ar faidd neu laeth sgim.
  • Amserlen Fwydo: Mae lloi fel arfer yn cael eu bwydo ddwywaith y dydd (yn y bore a gyda'r nos), a darperir tua 2-3 litr bob tro. Cânt eu bwydo gyda bwced gyda theth neu fwced agored yn dibynnu ar y system ffermio.
  • Diddyfnu: Dechreuwch leihau cymeriant llaeth yn raddol o 8-10 wythnos i annog y llo i fwyta bwyd solet, gan anelu at ddiddyfnu llawn o 10 wythnos. Sicrhewch eu bod yn cnoi cil; mae hyn yn dangos eu bod yn barod i gael eu diddyfnu.

Cyflwyno Bwyd Solid

  • Bwyd Cychwynnol i Loi: Cynigiwch fwyd cychwynnol i loi o ansawdd uchel o'r wythnos gyntaf. Dylai'r bwyd hwn gynnwys tua 18-20% o brotein i gefnogi twf cynnar.
    • Targed Cymeriant: Dylai'r llo fwyta o leiaf 1kg o fwyd cychwynnol i loi y dydd cyn cael ei ddiddyfnu'n llwyr oddi ar laeth.
  • Porthiant (o 3 Wythnos): Gwellt ffres ar gael o enedigaeth i annog datblygiad y rwmen. Deunydd gorwedd ond hefyd mewn rac gan y bydd yn lân ac yn ffres ar eu cyfer.
  • Dŵr Ffres: Darparwch ddŵr glân, ffres bob amser o'r diwrnod cyntaf er mwyn annog cymeriant bwyd a chynnal hydradiad.

Maeth ar ôl Diddyfnu (10 Wythnos Ymlaen)

  • Dyma pryd mae’r lloi’n cael eu hystyried yn ‘lloi wedi’u diddyfnu’. Dyma pan fyddant yn dechrau ar gyfnod twf a datblygiad gwartheg stôr.

Ystyriaethau allweddol

 

Mae rhai elfennau allweddol i'w hystyried wrth fagu lloi. Wrth hofran dros y bocsys isod, gallwch weld fwy o wybodaeth.

Lloches a Rheoli

Lloches

Dylid cadw lloi dan do mewn corlannau glân, sych, wedi'u hawyru'n dda, heb ddrafftiau. Mae'r dull grwpio fel arfer yn cael ei bennu gan y contract llaeth sydd gan y fferm.

 

 

Deunydd gorwedd

Defnyddiwch wellt gwely sych i gadw lloi'n gynnes ac yn gyfforddus, yn enwedig yn ystod y misoedd oerach.

 

 

Rheoli Iechyd

Brechiadau

Dilynwch raglen frechu i amddiffyn rhag clefydau cyffredin fel niwmonia a chlefydau clostridiol.

Tynnu Egin-gyrn

Yn aml, bydd tynnu egin-gyrn yn digwydd o fewn 2 i 6 wythnos gan fod deddfwriaeth yn nodi dan 6 wythnos oed; mae hyn yn lleihau straen ac yn hybu diogelwch yn ddiweddarach mewn bywyd.

Targedau Tyfiant

Magu Pwysau

Anelwch at gyfradd twf o tua 0.7-1.0kg y dydd yn ystod y cyfnod magu cynnar. Mae hyn yn sicrhau bod lloi yn iach ac yn tyfu'n gyson.

 

Pwysau Diddyfnu

Yn ddelfrydol, dylai lloi bwyso tua 80-100 kg adeg diddyfnu.

 

Fideo am dynnu egin-gyrn

 

Gwyliwch y fideo isod i edrych ar sut mae tynnu egin-gyrn yn cael ei wneud. Mae hon yn dasg allweddol.

Daw’r fideo hyn o adnoddau  Galwedigaethol ac Ôl-16  ‘Cynhyrchiant Cig Eidion’ a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan Hwb gan Lywodraeth Cymru yn 2014.