Cynhyrchu cig eidion dros y degawd diwethaf
Dros y degawd diwethaf, gwelwyd nifer o dueddiadau a datblygiadau nodedig ym maes cynhyrchu cig eidion yn y DU:
Tueddiadau Cynhyrchu Cyffredinol
Mae cynhyrchu cig eidion yn y DU wedi amrywio dros y blynyddoedd oherwydd ffactorau amrywiol gan gynnwys newidiadau yn y galw gan ddefnyddwyr, y tywydd yn effeithio ar bori ac argaeledd porthiant, a ffactorau economaidd sy’n dylanwadu ar arferion ffermio
Cynaliadwyedd a Phryderon Amgylcheddol
Bu ffocws cynyddol ar gynaliadwyedd ym maes cynhyrchu cig eidion, gydag ymdrechion i leihau allyriadau carbon, gwella effeithlonrwydd wrth ddefnyddio porthiant, a hyrwyddo arferion ffermio mwy ecogyfeillgar.
Effaith Brexit
Mae penderfyniad y DU i adael yr UE (Brexit) wedi cael goblygiadau ar gyfer cynhyrchu cig eidion, gan gynnwys newidiadau mewn cytundebau masnach, cymorthdaliadau, a rheoliadau sy’n effeithio ar fewnforio ac allforio cig eidion a gwartheg.
Technoleg ac Arferion Ffermio
Mae datblygiadau mewn technoleg wedi dylanwadu ar ffermio cig eidion, gyda mwy o ddefnydd o dechnegau ffermio manwl, gwell geneteg ar gyfer bridio, a gwell arferion rheoli gyda’r nod o gynyddu cynhyrchiant a lles anifeiliaid.
Dewisiadau Defnyddwyr a Thueddiadau'r Farchnad
Bu diddordeb cynyddol ym maes cynhyrchion cig eidion o darddiad lleol a lles uwch ymhlith defnyddwyr. Mae hyn wedi arwain at rai newidiadau mewn arferion ffermio a strategaethau marchnata gan gynhyrchwyr i fodloni’r gofynion hyn.
Beth mae cigydd yn chwilio amdano i gwrdd â dewisiadau’r farchnad?
Gwyliwch y fideo yma i ddarganfod:
Polisi a Rheoleiddio
Mae newidiadau mewn polisi amaethyddol, gan gynnwys polisïau amaethyddol a chymorthdaliadau ôl-Brexit, wedi dylanwadu ar arferion cynhyrchu cig eidion a phroffidioldeb ffermwyr. Mae hyn yn dal i fod yn bryder o ran effaith anhysbys y cynllun ffermio cynaliadwy.