Cynnwys yr uned
Uned 4: Cyflwyniad i Systemau Pesgi Gwartheg Cig Eidion
0/2
Uned 4: Cyflwyniad i Systemau Pesgi Gwartheg Cig Eidion

Pa system fyddai fwyaf addas i chi?

 

Mae’r system pesgi gwartheg cig eidion a ddewisir yn dibynnu ar leoliad y fferm a mynediad at adnoddau bwyd.

  • Mae ffermydd sydd â chyflenwad helaeth o rawnfwydydd neu sgil-gynhyrchion fel blawd bisged a gwellt yn aml yn mabwysiadu systemau dwys, sy'n cefnogi twf cyflymach.
  • Ond mae ffermydd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd â phorfa dda yn tueddu i ddefnyddio systemau lled-ddwys neu systemau llai dwys, lle mai porthiant a phori yw'r prif ffynonellau bwyd.

Mae argaeledd a chost bwyd yn chwarae rhan hanfodol wrth benderfynu pa system sydd fwyaf addas ar gyfer pob fferm.

System Ddwys (12-15 mis)

 

Bridiau gwartheg cyfandirol a theirw cyflawn sydd fwyaf addas ar gyfer system besgi ddwys. Yn gyffredinol, bydd gan systemau dwys well trosiant bwyd, cynnydd pwysau byw dyddiol uwch, costau bwyd uwch y dydd ond gofynion bwyd is yn gyffredinol.

Wrth hofran dros y bocsys isod, gallwch weld fwy o wybodaeth.

Bwydo

Bwydo

Yn dibynnu'n fawr ar borthiant dwysfwyd ynni uchel (e.e., grawnfwydydd)

Cyfradd twf

Cyfradd twf

Twf cyflym gyda chynnydd pwysau byw dyddiol o hyd at 1.6 kg y dydd.

Anfanteision

Anfanteision

Costau bwyd dyddiol uwch ac angen am reolaeth ddwys, gan gynnwys trin y gwartheg yn rheolaidd i fonitro twf.

Addasrwydd

Addasrwydd

Y systemau gorau ar gyfer bridiau fel teirw cyfandirol (e.e. Charolais) sy'n tyfu'n gyflym ac sy'n gallu trosi porthiant yn bwysau yn effeithlon.

Manteision

Manteision

Pesgi cyflymach, costau bwydo gydol oes is.

System Led-ddwys (15-20 mis)

Mae system besgi led-ddwys yn cynnwys cyfnodau pan fo'r buchod yn cael eu troi allan i bori, canol gaeaf ac yna cyfnod dan do ar y diwedd i'w pesgi.

Wrth hofran dros y bocsys isod, gallwch weld fwy o wybodaeth.

Bwydo

Bwydo

Cymysgedd o borthiant yn ystod y tymor pori a dwysfwyd yn ystod y gaeaf.

Addasrwydd

Addasrwydd

Yn gweithio'n dda ar gyfer bustych a heffrod, yn enwedig o fuchesi sugno. Mae angen rheolaeth dda ar laswelltir.

Cyfradd twf

Cyfradd twf

Gweddol dda, gydag enillion dyddiol o tua 0.9 i 1.0 kg / dydd.

Manteision

Manteision

Yn cydbwyso costau bwyd trwy ddefnyddio glaswellt, gyda llai o ddibyniaeth ar ddwysfwydydd drud.

Anfanteision

Anfanteision

Yn dal i gynnwys bwydo dan do yn y gaeaf, sy’n gallu bod yn gostus.

System Lai Dwys (20+ mis)

 

Bridiau brodorol sydd fwyaf addas ar gyfer system besgi lai dwys, gan fod ganddynt gyfraddau twf arafach sy'n galluogi'r buchod i gyrraedd y pwysau dymunol heb fod yn rhy dew.

Wrth hofran dros y bocsys isod, gallwch weld fwy o wybodaeth.

Bwydo

Bwydo

Seiliedig ar borthiant yn bennaf, gan ddibynnu ar laswellt a silwair gydag ychydig iawn o ddwysfwydydd.

Addasrwydd

Addasrwydd

Bridiau brodorol fel Aberdeen Angus a Henffordd, gan eu bod yn aeddfedu ar bwysau is ac nid oes angen twf cyflym arnynt.

Cyfradd twf

Cyfradd twf

Arafach, tua 0.55 i 0.65 kg/dydd.

Manteision

Manteision

Costau mewnbwn is (bwyd, siediau), cynaliadwy, yn defnyddio glaswellt pori sydd ar gael.

Anfanteision

Anfanteision

Mae amseroedd pesgi hirach yn cynyddu costau sefydlog cyffredinol, a gall gwartheg fod yn agored i risgiau tywydd.
Daw’r fideo hyn o adnoddau  Galwedigaethol ac Ôl-16  ‘Cynhyrchiant Cig Eidion’ a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan Hwb gan Lywodraeth Cymru yn 2014.

Bridiau

 

Dyma dabl sy'n dangos y gwahanol fridiau a'u lle o fewn y system.

Teirw Bustych Heffrod
Brîd Oed (mis) Pwysau (kg) Oed (mis) Pwysau (kg) Oed (mis) Pwysau (kg)
Holstein/Friesian 12-14 550 15-18 600
Charolais 12-14 650-700 15-18 650-700 18-20 600-625
Belgian Blue 12-14 625-650 15-18 650-675 18-20 600-625
Simmental 13-14 625-650 15-18 650-675 18-20 600
Limousin 13-14 625-650 15-18 625-650 18-20 575-600
Aberdeen Angus 18-20 575-600 20-24 550-575
Beef Shorthorn 18-20 575-600 20-24 550-575
Henffordd 18-20 575-600 20-24 550-575
Du Cymreig 18-22 575-625 20-24 525-575

 

Dwys Lled-ddwys Llai dwys
12-14 mis 15-20 mis Dros 20 mis

© Hybu Cig Cymru

Llinell amser o’r broses besgi

 

Ceir dau ddiagram isod sy’n dangos manylion y systemau pesgi yn y gwanwyn a’r hydref.

Systemau pesgi cyffredin ar gyfer gwartheg a enir yn y gwanwyn

 

System Ffynhonnell Gwan Haf Hyd Gaeaf Gwan Haf Hyd Gaeaf Gwan Haf
12 mis Sugno Sugno Dwysfwyd
Godro Llaeth Dwysfwyd
18 Mis Sugno Sugno Porthiant/dwysfwyd Pori/dwysfwyd
Godro Llaeth Porthiant Porthiant/dwysfwyd Pori/dwysfwyd
24 mis Sugno Sugno Porthiant Pori Porthiant/dwysfwyd
Godro Llaeth Porthiant Porthiant Pori Porthiant/dwysfwyd
30 mis Sugno Sugno Porthiant Pori Porthiant Pori
Godro Llaeth Porthiant Porthiant Pori Porthiant Pori

 

Systemau pesgi cyffredin ar gyfer gwartheg a enir yn yr hydref

 

System Ffynhonnell Hyd Gaeaf Gwan Haf Hyd Gaeaf Gwan Haf Hyd Gaeaf
12 mis Sugno Sugno Dwysfwyd
Godro Llaeth Dwysfwyd
18 mis Sugno Sugno Pori Porthiant/dwysfwyd
Godro Llaeth Porthiant Pori Porthiant/dwysfwyd
24 mis Sugno Sugno Pori Porthiant/dwysfwyd Pori
Godro Llaeth Porthiant Pori Porthiant/dwysfwyd Pori

 

© Hybu Cig Cymru