Uned 5: Rheoli Ffrwythlondeb Buches a Buchod Cyfnewid

Canfod buchod yn gofyn tarw

 

Canfod pan fo buchod cig eidion yn gofyn tarw yw’r broses o nodi pryd mae buwch mewn oestrws (gofyn tarw) – sef y cyfnod pan fydd hi’n ffrwythlon. Mae canfod hyn yn gywir yn bwysig ar gyfer bridio llwyddiannus, boed hynny trwy baru naturiol neu ffrwythloni artiffisial.

Dyma’r arwyddion:

Sefyll i darw neidio ar eu cefnau:
Yr arwydd mwyaf dibynadwy bod buwch yn gofyn tarw yw pan fydd yn sefyll yn ei hunfan ac yn caniatáu i fuchod eraill neu darw neidio ar ei chefn. Cyfeirir at hyn yn aml fel “gwasod sefyllog” (“standing heat”).
Neidio ar gefnau buchod eraill:

Gall buchod sy’n gofyn tarw neu sy’n agos at ofyn tarw geisio neidio ar gefnau buchod eraill. Fodd bynnag, mae neidio ar gefnau buchod eraill yn llai dibynadwy fel arwydd na sefyll yn llonydd i ofyn tarw. 

Anesmwythder a mwy o weithgarwch:

Mae buchod sy’n gofyn tarw yn aml yn symud mwy, yn cerdded o gwmpas mwy, a gallant ymddangos yn aflonydd. Gallant symud i ffwrdd o’r fuches neu leisio’n fwy nag arfer. 

Rhedlif Mwcws Clir:

Gall buwch sy’n gofyn tarw ddangos rhedlif mwcws clir, lludiog o’r fwlfa. Yn aml, gellir gweld hwn yn hongian o gefn y fuwch neu ar ei chynffon. 

Fwlfa coch a chwyddedig:

Gall fwlfa’r fuwch ymddangos yn chwyddedig, yn llaith ac ychydig yn goch pan fydd yn gofyn tarw. 

Arogli a Llyfu Buchod Eraill :

Gall buchod sy’n gofyn tarw arogli a llyfu organau rhywiol buchod eraill. 

Pwyso’r Gên:

Gall buwch sy’n gofyn tarw bwyso ei gên ar gefnau buchod eraill.

Mae’r rhain i gyd yn arwyddion gweledol y gall unrhyw stocmon eu gweld wrth arsylwi ar ei fuchod bob dydd.
Arsylwi
Y dull mwyaf traddodiadol yw treulio amser yn arsylwi’r fuches, yn enwedig yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda’r nos pan fydd buchod yn fwy actif.
Offer Canfod y Buchod sy’n Gofyn Tarw

Rhoi paent neu Sialc ar y Cynffon: Mae paent neu sialc sydd wedi’i roi ar ben y gynffon yn cael ei rwbio i ffwrdd pan fydd anifail arall yn neidio ar gefn buwch, sy’n helpu i adnabod buchod sy’n gofyn tarw.

Offer Canfod Kamar: Mae’r rhain yn ddyfeisiadau pwysau-sensitif sy’n newid lliw pan fydd yr anifail arall yn neidio ar gefn y fuwch.

Offer Monitro Gweithgarwch: Mae dyfeisiau electronig fel pedometrau neu goleri gweithgarwch yn monitro symudiad cynyddol a gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gofyn tarw.