Uned 5: Rheoli Ffrwythlondeb Buches a Buchod Cyfnewid

Rhesymau dros ffrwythlondeb gwael

Sgôr cyflwr corff
Cyflwr buwch, heffrod (neu darw) gwael adeg paru – mae angen i wartheg a heffrod fod yn y cyflwr cywir adeg ffrwythloni a dylid eu bwydo yn unol â hynny.

Lloia yn y gwanwyn – Sgôr Cyflwr Corff 2.5-3

Lloia yn yr hydref – Sgôr Cyflwr Corff 3

Rhwyddineb lloia
Lloia anodd – gall cyflwr buchod anghywir adeg lloia, cyfnod cario hir neu dadogwr lloia anodd ei gwneud yn anodd i fuwch wella mewn pryd ar gyfer y cyfnod ffrwythloni.
Rheolaeth ffermwyr
Clefydau mewn buchod, heffrod neu’r tarw

Dulliau gwael o ganfod buchod sy’n gofyn tarw