Uned 1: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Oen y DU

Maint Diadell

Mae maint diadell ddefaid y DU wedi bod yn gostwng yn raddol. Erbyn 2023, roedd tua 14 miliwn o famogiaid bridio, gyda gostyngiad yn nifer y diadelloedd. Mae’r duedd hon yn adlewyrchu patrwm ehangach o ostyngiad yn niferoedd anifeiliaid, wedi’i achosi’n rhannol gan reoliadau amgylcheddol, pryderon proffidioldeb, a newidiadau mewn defnydd tir o ganlyniad i newidiadau mewn polisïau amaethyddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r ddiadell genedlaethol wedi lleihau ers 2018 pan gollwyd llawer iawn o anifeiliaid yn ystod y storm fawr a darodd y DU o gyfeiriad y dwyrain yng ngwanwyn 2018. Cyn hynny digwyddodd y gostyngiad mwyaf yng nghyfnod Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001.

Cynhyrchu Cig

Mae cynhyrchu cig defaid hefyd yn gostwng, gyda chyfanswm y defaid sy’n cael eu lladd wedi gostwng i 11.8 miliwn o anifeiliaid yn 2023.

Efallai bod y dirywiad hwn yn digwydd oherwydd y newidiadau yn amodau’r farchnad a’r rheoliadau llymach sydd wedi ysgogi rhai ffermwyr i beidio â ffermio defaid neu leihau maint eu gweithrediadau. Fel arfer mae’r rheoliadau hyn yn canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon a phwysau defnydd tir, gan wthio ffermwyr i arallgyfeirio neu leihau. Hefyd, gall newidiadau ym mhrisiau cig oen ddylanwadu ar faint o ddefaid mae ffermwyr yn eu cadw.

Mae’r gostyngiad cyffredinol mewn cynhyrchu cig defaid wedi’i gysylltu’n agos â’r cyfuniad o ddiadelloedd llai o faint, llai o anifeiliaid yn cael eu lladd, a newidiadau mewn arferion ffermio. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae’r diwydiant wedi dangos gwytnwch trwy ganolbwyntio mwy ar farchnadoedd allforio, yn enwedig yn Ewrop, sydd wedi bod o gymorth i gynnal hyfywedd economaidd ffermio defaid yn y DU.

Twf Allforio

Er bod maint y ddiadell genedlaethol wedi gostwng, mae allforion cig defaid y DU wedi perfformio’n dda. Yn 2023, cynyddodd y gwerth allforio 15% i £515 miliwn, wedi’i achosi’n bennaf gan alw mawr o farchnadoedd Ewropeaidd. Mae’r twf hwn yn tanlinellu pwysigrwydd parhaus allforion i’r diwydiant.

Er bod Brexit wedi achosi rhwystrau masnach newydd gyda’r UE, e.e. gwiriadau tollau a thariffau posibl, mae allforwyr y DU wedi llwyddo i oresgyn yr heriau hyn. Mae’r llywodraeth a’r diwydiant wedi gweithio i gynnal cysylltiadau masnach cryf â phartneriaid Ewropeaidd trwy gytundebau ac addasiadau i fframweithiau rheoleiddio newydd. Mae’r ymdrech hon wedi talu ar ei chanfed, gan sicrhau bod llif parhaus o gig defaid yn mynd i Ewrop, er bod mwy o rwystrau logistaidd nag o’r blaen.

Y tu hwnt i Ewrop, mae’r DU wedi ceisio arallgyfeirio ei marchnadoedd allforio. Mae’r galw cynyddol o wledydd y tu allan i’r UE, e.e. y Dwyrain Canol ac Asia, hefyd wedi cyfrannu at y cynnydd mewn gwerth allforio. Mae awydd cynyddol am gig oen o ansawdd uchel yn y mannau hyn ac felly mae cynhyrchwyr y DU yn manteisio ar y cyfleoedd trwy ehangu cysylltiadau masnach ac ymgyrchoedd marchnata yno.

Heriau Penodol

Mae proffidioldeb yn parhau i fod yn gymedrol i ffermwyr defaid, gyda chostau mewnbwn cynyddol, e.e. costau bwyd anifeiliaid a llafur, yn rhoi pwysau ar elw. Hefyd, mae cymhlethdodau masnach ôl-Brexit, clefydau, a newidiadau i bolisïau amgylcheddol yn effeithio ar gynhyrchu gartref a chyfleoedd allforio.
Mae’n bwysig bod y diwydiant defaid yn mabwysiadu meddylfryd hyblyg a bod ffermwyr yn gallu addasu i weddu i’r hyn sydd ei angen ar y farchnad.