Uned 1: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Oen y DU

Hanes Ffermio Defaid y DU

 

Yn yr adran hon byddwn yn archwilio sut mae ffermio defaid yn y DU wedi esblygu dros y blynyddoedd; bydd yn cynnwys y canlynol:

  • Dechrau Cynhyrchu Defaid yn y DU
  • Gwlân
  • Cig

Gallwch lywio i’r canlyniad dysgu mwyaf perthnasol neu weithio drwy’r uned o’r dechrau i’r diwedd.

Cynhyrchu Defaid yn y DU

Yn y DU, mae ffermio defaid wedi bod yn ddiwydiant pwysig erioed, gyda chig, gwlân, llaeth a chroen dafad yn sail i fasnach ers canrifoedd. Heddiw, prif gynnyrch defaid yw cig, er bod marchnad i’r cynhyrchion eraill o hyd.
Mae defaid wedi cael eu ffermio yn y DU ers y cyfnod Neolithig tua 4000 CC. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod defaid Prydain bryd hynny yn frown a chorniog. Mae cyndeidiau defaid lled wyllt Soaigh (Soay) i’w gweld hyd heddiw, yn bennaf ar Ynys Soaigh yn St Kilda yn yr Alban.
Mae ffermio wedi datblygu’n rhyfeddol o ganlyniad i well seilwaith, protocolau iechyd anifeiliaid mwy cadarn a datblygiadau technolegol.
Yn ystod yr Oes Efydd roedd defaid yn gyffredin ac yn cymryd rôl hafal i rôl moch a gwartheg; yn ddiweddarach daeth yn brif anifail fferm.

Gwlân oedd un o’r deunyddiau gweadwy cyntaf i gael ei nyddu a’i wehyddu i wneud dillad i bobl, yn enwedig yn ystod cyfnod gwlyb ac oer yr Oes Haearn.

Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, roedd Prydain yn enwog am ei chynhyrchion gwlân o ansawdd uchel. Mae cofnodion yn dangos bod clogynnau brethyn (gwlân) yn eitemau dymunol yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Adeg y Goncwest Normanaidd yn 1066 a’r arolwg Domesday a ddilynodd, cofnodwyd mai defaid oedd y prif anifail fferm.

Gwlân

 

Mae gwlân yn cael ei gneifio’n flynyddol er lles yr anifeiliaid. Mae bridiau defaid wedi esblygu a datblygu ar hyd y blynyddoedd i gynhyrchu gwahanol fathau o wlân, o ddefaid sy’n byw ar y bryniau geirwon gyda’u gwlân trwchus, sylweddol, i ddefaid yr iseldir gyda’u gwlân meddalach. Mae amrywiaeth eang y cnu ac addasrwydd rhai bridiau i rai ardaloedd penodol yn ffenomenon sy’n unigryw i fridiau defaid Prydain.

Cig

 

Mae’r rhan fwyaf o’r ŵyn sy’n cael eu geni ledled y DU yn cael eu cyflenwi i’r diwydiant cynhyrchu cig. Ond mae cyfran o ŵyn yn cael eu cadw ar gyfer bridio.

‘Prime lamb’ yw cig ŵyn sy’n ieuengach nag 1 mlwydd oed ac mae unrhyw beth hŷn na hynny yn cael ei ystyried yn gig dafad.

Bydd defaid anaddas i’w cadw yn y ddiadell yn cael eu gwerthu fel ‘defaid cwlin’. Bydd y defaid hyn yn cael eu cwlio a’r cig yn cael ei werthu i wneud bwydydd fel prydau parod.

Byddwn yn dysgu mwy am ddulliau dewis a dethol a gwerthu ŵyn ym modiwl 4.