Bridiau Defaid Cyffredin y DU
Credir bod mwy o fridiau defaid yn y DU nag mewn unrhyw wlad arall yn y byd.
Mae mwy na 60 o wahanol fridiau defaid pur i’w cael yn y DU, a hyd at 90 os ystyriwch yr holl groesfridiau a chyfuniadau. Mae gan bob brid ei nodweddion ei hun ac addasrwydd ar gyfer amrywiaeth o dirweddau, fel arfer yn deillio o ran benodol o’r wlad. Mae’r defaid hyn a’r bobl sy’n gofalu amdanynt wedi llunio’r tirweddau rydyn ni’n gyfarwydd â nhw ac wedi creu’r cymunedau sy’n cadw cefn gwlad yn fyw.
Mae dau grŵp o fridiau – y rhai ‘brodorol’ a’r rhai ‘cyfandirol’.
Wrth hofran dros y bocsys isod, gallwch weld mwy o wybodaeth.
Brodorol
Brodorol
Cyfandirol
Cyfandirol
Bridiau Mynydd
Bridiau mynydd yw’r rhai sy’n addas i fyw ar dir mynyddig. Maent yn galed, yn wydn ac mae gan y defaid alluoedd magu ŵyn da. Fel arfer ar y mynydd, bydd bridio yn aros yn bur oherwydd bydd yr anifeiliaid yn cael eu bridio i ddiadelloedd cynefin gan amlaf.
Bridiau Ucheldir
Bridiau ucheldir yw’r rhai sy’n addas i fyw ar yr ardaloedd rhwng y mynydd a’r iseldir. Mae’r bridiau hyn yn llai caled na’r bridiau mynydd ac yn tueddu i fod yn fwy epilgar, gan gynhyrchu mwy o ŵyn. Maent yn famogiaid llaethog, sy’n gallu cynhyrchu llawer o laeth a hynny’n cyd-fynd yn dda â’r nifer uchel o ŵyn maent yn eu cynhyrchu.
Bridiau Iseldir
O fewn y system, mae bridiau’r iseldir ar y rhan lle mae creu oen tew yn bwysig. Fel arfer, mae’r mamogiaid yn ddefaid croesfrid neu hanner-brid. Mae’r gymysgedd o fridiau yn rhoi’r nodweddion gorau posibl i’r mamogiaid ar gyfer cynhyrchu a magu ŵyn o safon. Mae gan yr hyrddod a ddefnyddir gyrff mawr ac ansawdd carcas sy’n cynhyrchu ŵyn addas ar gyfer y fasnach ŵyn tewion.














