Cadw Cofnodion
Wrth ffermio defaid, mae’n hanfodol cadw cofnodion cywir er mwyn rheoli’n effeithiol, cadw cydymffurfiaeth reoleiddiol, ac er mwyn sicrhau bod y fferm yn gynhyrchiol a phroffidiol.
Isod mae rai o’r rhesymau pam. Wrth hofran dros y bocsys, gallwch weld mwy o wybodaeth.
Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
Cymorthdaliadau a Grantiau
Cymorthdaliadau a Grantiau
Rheoli Diadell
Rheoli Diadell
Rheoli Clefydau
Rheoli Clefydau
Rheoli Ariannol
Rheoli Ariannol
Cofnodion y mae’n rhaid eu cadw
Cofnodion Adnabod Anifeiliaid
Rhaid gallu adnabod defaid gyda thagiau adnabod electronig (EID) fel sy’n ofynnol dan gyfraith y DU. Mae’n rhaid i ffermwyr gadw cofnod o:
- Ddyddiad tagio.
- Rhif tag pob dafad (tagiau gweledol ac electronig).
- Unrhyw dagiau sydd wedi’u colli neu eu newid.
Cofnodion Symud
Bob tro mae defaid yn cael eu symud o un lle i le arall (e.e. o’r fferm i’r farchnad, i fferm arall, neu i’w lladd), rhaid cofnodi’r symud. Yn y DU, gwneir hyn drwy EID Cymru.
Dylai’r cofnodion gynnwys:
- Dyddiad symud.
- Nifer y defaid sy’n cael eu symud.
- Lleoliadau ymadael a chyrchfan ynghyd â’u rhifau CPH.
- Rhifau adnabod unigol (os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith).
- Manylion trafnidiaeth (rhif cofrestru cerbydau).
Llyfr Symud Defaid:
Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol lle mae’n rhaid cofnodi symud pob anifail. Mae’n helpu o ran rheoli clefydau ac olrhain anifeiliaid.
Cofnodion Geni, Marwolaeth a Bridio
Cofnodion Wyna:Nid yw casglu’r wybodaeth hon yn orfodol ond mae’n arfer da.
Gellir cadw cofnodion manwl o ddigwyddiadau wyna, gan gynnwys:
- Dyddiad geni.
- Nifer yr ŵyn sy’n cael eu geni i bob dafad.
- Rhyw yr ŵyn.
- Rhifau adnabod.
- Manylion unrhyw faterion yn ystod yr enedigaeth (e.e. cymorth i eni, marw-enedigaethau).
Cofnodion Bridio a Pharu:
- Dyddiad paru.
- Yr hwrdd a ddefnyddiwyd i baru.
- Dyddiadau wyna disgwyliedig.
Cofnodion Marwolaeth a Gwaredu:
- Dyddiad y farwolaeth.
- Achos y farwolaeth (os yw’n hysbys).
- Dull gwaredu (e.e. drwy wasanaeth gwaredu trwyddedig, llosgi).
Cofnodion Iechyd a Milfeddygol
Triniaethau Meddygol:
Dylid cadw llygad ar yr holl driniaethau meddygol a weinyddir, gan gynnwys:
- Dyddiad y driniaeth.
- Rheswm dros y driniaeth.
- Enw’r cyffur neu’r feddyginiaeth a ddefnyddiwyd.
- Dos a chyfnod cadw o’r gadwyn fwyd (yr amser cyn y gellir lladd yr anifail neu ei fwyta gan bobl).
- Rhif y ‘batsh’ a dyddiad cyhoeddi.
Cofnodion Triniaethau Gwaredu Llyngyr a Drensio:
Dylai cofnodion triniaethau rheoli parasitiaid gynnwys:
- Dyddiad y triniaethau rheoli llyngyr a drensio.
- Pa gynnyrch a dos a ddefnyddir.
- Cyfanswm a rhifau adnabod y defaid a gafodd eu trin.
Cofnodion Diadell
Rhestr o’r Defaid:
Cadw rhestr o’r holl ddefaid ar y fferm, gan gynnwys:
- Cyfanswm y defaid yn y ddiadell.
- Nifer y defaid, hyrddod ac ŵyn.
- Oed, brid a manylion adnabod unigol.
Cofnodion Cwlio:
Cofnod o'r rhesymau dros gwlio defaid (e.e. problemau iechyd, henaint) a manylion ble cawsant eu hanfon (e.e. lladd-dy).
Cofnodion Busnes ac Ariannol
Cofnodion Gwerthiannau:
Cadw dogfennau ynghylch gwerthu defaid, ŵyn, gwlân neu gynhyrchion eraill.
Cofnodion Pryniannau:
Cofnodi unrhyw bryniannau sy’n gysylltiedig â’r fferm, gan gynnwys:
- Pryniannau da byw (e.e. defaid neu hyrddod newydd).
- Offer a chyflenwadau.
- Bwydydd a chynhyrchion milfeddygol.
Cofnodion Treuliau ac Incwm:
Cynnal cofnodion ariannol cywir ar gyfer treuliau (bwyd anifeiliaid, costau milfeddygol, llafur, ac ati) ac incwm (gwerthu ŵyn, gwerthu gwlân, cymorthdaliadau).
Cofnodion Amgylcheddol a Chydymffurfio
Cofnodion ynghylch storio a defnyddio tail, gan gynnwys:
- Faint gafodd ei gynhyrchu.
- Dull storio a gwaredu.
- Cydymffurfiaeth â rheoliadau amgylcheddol, er enghraifft y rheoliadau NVZ cyfredol.
Cofnodion Cymorthdaliadau a Grantiau
Grantiau a Chymorthdaliadau:
Dylid cadw cofnodion o unrhyw gymorthdaliadau neu grantiau a dderbyniwyd, e.e. y rhai o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau eraill sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd.