Deall Elw a Cholled ar Fferm Ddefaid
Gall amrywiaeth o ffactorau effeithio ar elw a cholled, o gostau gweithredol i brisiau’r farchnad. Dyma ddadansoddiad o incwm a threuliau arferol fferm ddefaid, ac yna trosolwg o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar elw a cholled.
Ffynonellau Incwm
Gwerthu Å´yn
Gwerthu Gwlân
Gwerthu Stoc Bridio
Cymorthdaliadau a Grantiau
Incwm Arallgyfeirio
Costau
Bwyd a Phorthiant
Milfeddygon a Meddyginiaeth
Costau Llafur
Tir a Rhent
Costau Contractwyr
Cyfleustodau a Gorbenion
Cludo Nwyddau
Bydd fferm ddefaid broffidiol yn ennill incwm o werthu anifail pan fydd y pris gwerthu yn uwch na’r treuliau. Er mwyn cael yr elw gorau posibl, mae angen i ffermwyr ganolbwyntio ar wella cyfraddau goroesiad ŵyn, cynyddu canrannau wyna (nifer yr ŵyn i bob dafad) a gostwng marwolaethau a chlefydau – mae pob un o’r rhain yn ddangosyddion perfformiad allweddol y soniwyd amdanynt yn flaenorol.
Gall colledion ddigwydd oherwydd:
- Prisiau isel ar y farchnad ŵyn
- Costau bwyd anifeiliaid uchel, yn enwedig mewn blynyddoedd tywydd gwael pan fydd glaswellt yn brin.
- Cyfraddau wyna isel neu gyfraddau marwolaeth uchel.
- Achosion o glefydau neu broblemau iechyd sy'n cynyddu costau milfeddygol.
- Rheoli iechyd y ddiadell yn wael yn arwain at fwy o gostau a llai o gynnyrch.
- Llai o gymorthdaliadau oherwydd newidiadau mewn polisi amaethyddol.
Ffactorau Allweddol sy'n Effeithio ar Elw a Cholled
Newidiadau i Bolisïau a Chymorthdaliadau
Effeithlonrwydd ac Arallgyfeirio
Prisiau'r Farchnad
Tywydd
Nifer yr Å´yn ac Iechyd y Ddiadell
Enghraifft Syml o Elw a Cholled
Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ddiadell o 500 o famogiaid wyna’r gwanwyn ar yr iseldir:
Incwm
- Gwerthu ŵyn: £50,000 yw cyfanswm yr incwm o werthiant ŵyn ym mis Awst 2024 am £97 yr oen. Mae’r pris hwn yn adlewyrchu amodau’r farchnad ar gyfer tymor 2024.
- Gwerthu gwlân: £200 yw’r cyfraniad at yr incwm ar ôl gwerthu gwlân 500 o ddefaid ym mis Mehefin 2024 am £0.40 y cnu. Gall prisiau gwlân amrywio yn seiliedig ar ofynion y farchnad.
- Cymorthdaliadau (e.e. BPS): Mae’r fferm yn derbyn £10,000 mewn cymorthdaliadau, gan adlewyrchu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar gyfer 2024. Gan fod BPS yn cael ei ddiddymu’n raddol, efallai na fydd y ffigwr hwn ar gael yn y blynyddoedd i ddod.
- £3,000 yw cyfanswm yr incwm o werthu mamogiaid sy’n magu: gwerthu 20 o famogiaid magu ym mis Medi 2024 am £150 yr un.
Cyfanswm Incwm: £63,200
Colled
- Bwyd a phorthiant: £15,500 yw cyfanswm costau bwyd a phorthiant y ddiadell drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
- Costau milfeddygol ac iechyd: £10,000 yw costau’r triniaethau milfeddygon drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y tymor wyna.
- Llafur: £8,000 yw’r costau llafur, gan gynnwys llogi gweithwyr tymhorol yn ystod y cyfnod wyna ym mis Mawrth a mis Ebrill 2024.
- Costau cneifio: £900 yw costau cneifio’r ddiadell ym mis Mehefin 2024, yn seiliedig ar gost o £0.40 y ddafad.
- Cyfleustodau, trafnidiaeth a gorbenion: £6,000 yw’r costau fferm cyffredinol, e.e. cyfleustodau a chludiant drwy gydol y flwyddyn.
- Rhent Tir: £5,000 y flwyddyn yw rhent y tir pori ar gyfer y ddiadell.
Cyfanswm Treuliau: £45,400
Elw Net
- £63,20 (incwm) - £45,400 (treuliau) = £17,800 net elw
Enghraifft syml yw hon, ond gall prisiau amrywio’n fawr yn seiliedig ar ffactorau fel maint y ddiadell, amodau’r farchnad, ac effeithlonrwydd.