Deall a nodi dangosyddion perfformiad
Sut i fesur perfformiad corfforol
Deall a nodi dangosyddion perfformiad
Mae gwella proffidioldeb diadell yn dechrau drwy edrych ar y perfformiad cyfredol. Y cam cyntaf yw ystyried perfformiad cyfredol y busnes a gofyn rhai cwestiynau sylfaenol ond pwysig i chi’ch hun.
Ydy’r ddiadell yn gwneud arian?
Beth yw fy nghostau a sut mae hyn yn cymharu â ffermydd tebyg?
Sut alla i wario fy arian yn fwy effeithlon?
Pe bawn i’n gwella cynhyrchiant y ddiadell, a fyddai hyn yn cynyddu fy elw?
Sut i fesur perfformiad
Mae perfformiad corfforol yn ffordd wych o ddechrau asesu cyfradd llwyddiant eich diadell.
Dyma rai enghreifftiau:
- Cyfradd twf ŵyn
- Defnydd o ddwysfwyd fesul dafad
- Canran sganio
- Canran wyna
- Canran magu
- Nifer yr ŵyn a werthwyd ar ôl eu pesgi ar borfa
- Sgôr cyflwr dafad yn ystod y gylchred
- Achosion o bydredd traed
- Achosion o fastitis
- Cyfraddau anifeiliaid cadw
Er y gall gwella’r meysydd hyn arwain at lai o gostau, gwell effeithlonrwydd, neu fwy o incwm, mae ganddynt fuddion eraill hefyd, e.e. llai o ofynion llafur/gwaith. Gall hyn helpu i symleiddio gweithrediadau, lleihau dibyniaeth ar lafur â llaw, a gwneud arferion amaethyddol yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir.
Cam 1
Adnabod y broblem
Cam 2
Penderfynu beth i’w fesur a sut i gasglu gwybodaeth
Cam 3
Dadansoddi’r canlyniadau
Cam 4
Gweithredu ar y canfyddiadau
Cam 5
Monitro cynnydd