Cynnwys yr uned
Uned 7: Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Defaid

Deall Elw a Cholled ar Fferm Ddefaid

 

Gall amrywiaeth o ffactorau effeithio ar elw a cholled, o gostau gweithredol i brisiau’r farchnad. Dyma ddadansoddiad o incwm a threuliau arferol fferm ddefaid, ac yna trosolwg o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar elw a cholled.

Ffynonellau Incwm

Gwerthu Å´yn
Y brif ffynhonnell incwm yw ŵyn sy’n cael eu gwerthu i’r diwydiant cynhyrchu cig. Gall prisiau amrywio yn dibynnu ar y tymor, galw’r farchnad, ac ansawdd yr ŵyn.

Gwerthu Gwlân
Er bod gwlân yn arfer bod yn ffynhonnell incwm sylweddol, mae ei werth wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, gall barhau i roi cyfran fechan o incwm, yn dibynnu ar frid y defaid ac ansawdd y cnu.

Gwerthu Stoc Bridio
Efallai bydd rhai ffermydd yn gwerthu defaid fel stoc bridio i ffermydd eraill ac yn gallu gofyn prisiau uwch o’i gymharu â gwerthu ŵyn am eu cig.

Cymorthdaliadau a Grantiau
Gall ffermwyr yn y DU gael cymorthdaliadau, e.e. y rhai o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a grantiau amgylcheddol, sy’n rhan bwysig o’r incwm cyffredinol.

Incwm Arallgyfeirio
Mae rhai ffermydd defaid yn arallgyfeirio i dwristiaeth, digwyddiadau, neu ynni adnewyddadwy, e.e. paneli solar neu dyrbinau gwynt, sy’n rhoi incwm ychwanegol.

Costau

Bwyd a Phorthiant
Gall bwydo defaid fod yn gost fawr, yn enwedig yn y gaeaf pan fydd porfa yn brin. Mae’r costau yn cynnwys bwydo atodol, gwair neu silwair.
Milfeddygon a Meddyginiaeth
Mae brechiadau, meddyginiaethau a gofal iechyd cyffredinol (e.e. gwaredu llyngyr, trin traed) yn hanfodol i gynnal diadell iach.
Costau Llafur
Mae angen llafur ar gyfer gweithdrefnau o ddydd i ddydd, e.e. bwydo, wyna a chneifio. Bydd rhai ffermydd yn llogi gweithwyr rhan amser neu dymhorol, gan ychwanegu at y costau.
Tir a Rhent
Mae rhentu tir yn gost fawr i fferm, ac mae gan dir sy’n eiddo i fferm gostau cynnal a chadw a rheoli hefyd.
Costau Contractwyr
Mae costau rheoli diadell yn hanfodol, e.e. cneifio, dipio/trochi, a sganio. Dyma’r prif gostau contractio sy’n wynebu fferm pan nad yw ffermwr yn gallu cwblhau’r tasgau hyn ei hun.
Cyfleustodau a Gorbenion
Mae hyn yn cynnwys trydan, dŵr, tanwydd ar gyfer peiriannau, a chynnal offer ac adeiladau.
Cludo Nwyddau
Er mwyn cael ŵyn neu wlân i’r farchnad, rhaid ystyried costau cludo, ffioedd arwerthiant, a chostau gwerthu uniongyrchol.

Bydd fferm ddefaid broffidiol yn ennill incwm o werthu anifail pan fydd y pris gwerthu yn uwch na’r treuliau. Er mwyn cael yr elw gorau posibl, mae angen i ffermwyr ganolbwyntio ar wella cyfraddau goroesiad ŵyn, cynyddu canrannau wyna (nifer yr ŵyn i bob dafad) a gostwng marwolaethau a chlefydau – mae pob un o’r rhain yn ddangosyddion perfformiad allweddol y soniwyd amdanynt yn flaenorol.

Gall colledion ddigwydd oherwydd:

  • Prisiau isel ar y farchnad ŵyn
  • Costau bwyd anifeiliaid uchel, yn enwedig mewn blynyddoedd tywydd gwael pan fydd glaswellt yn brin.
  • Cyfraddau wyna isel neu gyfraddau marwolaeth uchel.
  • Achosion o glefydau neu broblemau iechyd sy'n cynyddu costau milfeddygol.
  • Rheoli iechyd y ddiadell yn wael yn arwain at fwy o gostau a llai o gynnyrch.
  • Llai o gymorthdaliadau oherwydd newidiadau mewn polisi amaethyddol.

Ffactorau Allweddol sy'n Effeithio ar Elw a Cholled

Newidiadau i Bolisïau a Chymorthdaliadau
Gall newidiadau i bolisïau ffermio’r DU a Chymru, gan gynnwys newidiadau ôl-Brexit i gymorthdaliadau a grantiau amgylcheddol, gael effaith sylweddol ar broffidioldeb ffermio defaid.
Effeithlonrwydd ac Arallgyfeirio
Mae ffermwyr sy’n cynnal gweithrediadau effeithlon ac yn archwilio cyfleoedd arallgyfeirio (e.e. twristiaeth amaeth neu ynni adnewyddadwy) yn aml yn fwy proffidiol na’r rhai sy’n dibynnu ar ffrydiau incwm ffermio defaid traddodiadol yn unig
Prisiau'r Farchnad
Gall amrywiadau ym mhrisiau ŵyn a chryfder y farchnad gael effaith fawr ar broffidioldeb. Yn aml, bydd ffermwyr defaid ar drugaredd ffactorau cyflenwi a galw lleol a byd-eang.
Tywydd
Gall gaeafau caled gynyddu costau bwydo anifeiliaid a lleihau cyfleoedd pori, gan gynyddu treuliau.
Nifer yr Å´yn ac Iechyd y Ddiadell
Mae cynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu geni a’u magu’n llwyddiannus fesul dafad (a elwir yn ganran wyna) yn cynyddu incwm yn uniongyrchol. Mae rheoli iechyd, gan gynnwys atal afiechydon, hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gadw costau yn isel.

Enghraifft Syml o Elw a Cholled

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ddiadell o 500 o famogiaid wyna’r gwanwyn ar yr iseldir:

Incwm

  1. Gwerthu ŵyn: £50,000 yw cyfanswm yr incwm o werthiant ŵyn ym mis Awst 2024 am £97 yr oen. Mae’r pris hwn yn adlewyrchu amodau’r farchnad ar gyfer tymor 2024.
  2. Gwerthu gwlân: £200 yw’r cyfraniad at yr incwm ar ôl gwerthu gwlân 500 o ddefaid ym mis Mehefin 2024 am £0.40 y cnu. Gall prisiau gwlân amrywio yn seiliedig ar ofynion y farchnad.
  3. Cymorthdaliadau (e.e. BPS): Mae’r fferm yn derbyn £10,000 mewn cymorthdaliadau, gan adlewyrchu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar gyfer 2024. Gan fod BPS yn cael ei ddiddymu’n raddol, efallai na fydd y ffigwr hwn ar gael yn y blynyddoedd i ddod.
  4. £3,000 yw cyfanswm yr incwm o werthu mamogiaid sy’n magu: gwerthu 20 o famogiaid magu ym mis Medi 2024 am £150 yr un.

Cyfanswm Incwm: £63,200

Colled

  1. Bwyd a phorthiant: £15,500 yw cyfanswm costau bwyd a phorthiant y ddiadell drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
  2. Costau milfeddygol ac iechyd: £10,000 yw costau’r triniaethau milfeddygon drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y tymor wyna.
  3. Llafur: £8,000 yw’r costau llafur, gan gynnwys llogi gweithwyr tymhorol yn ystod y cyfnod wyna ym mis Mawrth a mis Ebrill 2024.
  4. Costau cneifio: £900 yw costau cneifio’r ddiadell ym mis Mehefin 2024, yn seiliedig ar gost o £0.40 y ddafad.
  5. Cyfleustodau, trafnidiaeth a gorbenion: £6,000 yw’r costau fferm cyffredinol, e.e. cyfleustodau a chludiant drwy gydol y flwyddyn.
  6. Rhent Tir: £5,000 y flwyddyn yw rhent y tir pori ar gyfer y ddiadell.

Cyfanswm Treuliau: £45,400

Elw Net

  • £63,20 (incwm) - £45,400 (treuliau) = £17,800 net elw

 

Enghraifft syml yw hon, ond gall prisiau amrywio’n fawr yn seiliedig ar ffactorau fel maint y ddiadell, amodau’r farchnad, ac effeithlonrwydd.