Cynnwys yr uned
Uned 7: Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Defaid

Cadw Cofnodion

 

Wrth ffermio defaid, mae’n hanfodol cadw cofnodion cywir er mwyn rheoli’n effeithiol, cadw cydymffurfiaeth reoleiddiol, ac er mwyn sicrhau bod y fferm yn gynhyrchiol a phroffidiol.

Isod mae rai o’r rhesymau pam. Wrth hofran dros y bocsys, gallwch weld mwy o wybodaeth.

Cydymffurfiaeth Gyfreithiol

Cydymffurfiaeth Gyfreithiol

Mae llawer o gofnodion, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag adnabod anifeiliaid, symud a thriniaethau iechyd, yn ofynion cyfreithiol o dan gyfraith y DU er mwyn sicrhau bod modd olrhain a rheoli clefydau.

Cymorthdaliadau a Grantiau

Cymorthdaliadau a Grantiau

Mae cadw cofnodion cywir yn angenrheidiol er mwyn gallu hawlio cymorthdaliadau a grantiau amaethyddol ac i brofi cydymffurfiaeth â rheoliadau amgylcheddol neu les anifeiliaid.

Rheoli Diadell

Rheoli Diadell

Mae cadw cofnodion cywir yn gymorth i fonitro iechyd diadelloedd, perfformiad bridio, a chynhyrchiant cyffredinol y fferm.

Rheoli Clefydau

Rheoli Clefydau

Os bydd achosion o glefydau, mae cael cofnodion symud ac iechyd manwl yn gymorth i olrhain a rheoli lledaeniad clefydau.

Rheoli Ariannol

Rheoli Ariannol

Mae cadw golwg ar incwm a threuliau yn hanfodol ar gyfer proffidioldeb, cynllunio ariannol, ac adrodd ar drethi.

Cofnodion y mae’n rhaid eu cadw

Cofnodion Adnabod Anifeiliaid
Cofnodion Tagio:
Rhaid gallu adnabod defaid gyda thagiau adnabod electronig (EID) fel sy’n ofynnol dan gyfraith y DU. Mae’n rhaid i ffermwyr gadw cofnod o:

  • Ddyddiad tagio.
  • Rhif tag pob dafad (tagiau gweledol ac electronig).
  • Unrhyw dagiau sydd wedi’u colli neu eu newid.

Cofnodion Symud
Trwyddedau Symud Anifeiliaid:
Bob tro mae defaid yn cael eu symud o un lle i le arall (e.e. o’r fferm i’r farchnad, i fferm arall, neu i’w lladd), rhaid cofnodi’r symud. Yn y DU, gwneir hyn drwy EID Cymru.

Dylai’r cofnodion gynnwys:

  • Dyddiad symud.
  • Nifer y defaid sy’n cael eu symud.
  • Lleoliadau ymadael a chyrchfan ynghyd â’u rhifau CPH.
  • Rhifau adnabod unigol (os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith).
  • Manylion trafnidiaeth (rhif cofrestru cerbydau).

Llyfr Symud Defaid:
Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol lle mae’n rhaid cofnodi symud pob anifail. Mae’n helpu o ran rheoli clefydau ac olrhain anifeiliaid.

Cofnodion Geni, Marwolaeth a Bridio

Cofnodion Wyna:Nid yw casglu’r wybodaeth hon yn orfodol ond mae’n arfer da.
Gellir cadw cofnodion manwl o ddigwyddiadau wyna, gan gynnwys:

  • Dyddiad geni.
  • Nifer yr ŵyn sy’n cael eu geni i bob dafad.
  • Rhyw yr ŵyn.
  • Rhifau adnabod.
  • Manylion unrhyw faterion yn ystod yr enedigaeth (e.e. cymorth i eni, marw-enedigaethau).

 

Cofnodion Bridio a Pharu:

  • Dyddiad paru.
  • Yr hwrdd a ddefnyddiwyd i baru.
  • Dyddiadau wyna disgwyliedig.

Cofnodion Marwolaeth a Gwaredu:

  • Dyddiad y farwolaeth.
  • Achos y farwolaeth (os yw’n hysbys).
  • Dull gwaredu (e.e. drwy wasanaeth gwaredu trwyddedig, llosgi).

Cofnodion Iechyd a Milfeddygol

Triniaethau Meddygol:

Dylid cadw llygad ar yr holl driniaethau meddygol a weinyddir, gan gynnwys:

  • Dyddiad y driniaeth.
  • Rheswm dros y driniaeth.
  • Enw’r cyffur neu’r feddyginiaeth a ddefnyddiwyd.
  • Dos a chyfnod cadw o’r gadwyn fwyd (yr amser cyn y gellir lladd yr anifail neu ei fwyta gan bobl).
  • Rhif y ‘batsh’ a dyddiad cyhoeddi.

 

Cofnodion Triniaethau Gwaredu Llyngyr a Drensio:
Dylai cofnodion triniaethau rheoli parasitiaid gynnwys:

  • Dyddiad y triniaethau rheoli llyngyr a drensio.
  • Pa gynnyrch a dos a ddefnyddir.
  • Cyfanswm a rhifau adnabod y defaid a gafodd eu trin.

 

Cofnodion Diadell

Rhestr o’r Defaid:
Cadw rhestr o’r holl ddefaid ar y fferm, gan gynnwys:

  • Cyfanswm y defaid yn y ddiadell.
  • Nifer y defaid, hyrddod ac ŵyn.
  • Oed, brid a manylion adnabod unigol.

 

Cofnodion Cwlio:
Cofnod o'r rhesymau dros gwlio defaid (e.e. problemau iechyd, henaint) a manylion ble cawsant eu hanfon (e.e. lladd-dy).

Cofnodion Busnes ac Ariannol

Cofnodion Gwerthiannau:
Cadw dogfennau ynghylch gwerthu defaid, ŵyn, gwlân neu gynhyrchion eraill.

Cofnodion Pryniannau:
Cofnodi unrhyw bryniannau sy’n gysylltiedig â’r fferm, gan gynnwys:

  • Pryniannau da byw (e.e. defaid neu hyrddod newydd).
  • Offer a chyflenwadau.
  • Bwydydd a chynhyrchion milfeddygol.

Cofnodion Treuliau ac Incwm:
Cynnal cofnodion ariannol cywir ar gyfer treuliau (bwyd anifeiliaid, costau milfeddygol, llafur, ac ati) ac incwm (gwerthu ŵyn, gwerthu gwlân, cymorthdaliadau).

Cofnodion Amgylcheddol a Chydymffurfio
Rheoli Tail a Chofnodion Storio:

Cofnodion ynghylch storio a defnyddio tail, gan gynnwys:

  • Faint gafodd ei gynhyrchu.
  • Dull storio a gwaredu.
  • Cydymffurfiaeth â rheoliadau amgylcheddol, er enghraifft y rheoliadau NVZ cyfredol.

Cofnodion Cymorthdaliadau a Grantiau

Grantiau a Chymorthdaliadau:
Dylid cadw cofnodion o unrhyw gymorthdaliadau neu grantiau a dderbyniwyd, e.e. y rhai o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau eraill sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd.