Gwybodaeth am yr uned
Croeso i’r adnodd rhyngweithiol Cynhyrchu Defaid. Yn yr adnodd hwn cewch gyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ddiwydiant defaid y DU.
Mae’r uned hon yn cynnwys tri maes allweddol:
- Hanes Ffermio Defaid y DU
- Ffactorau sy’n effeithio ar y diwydiant
- Ffeithiau a ffigurau’r diwydiant
Trwy gydol yr adnodd bydd delweddau, fideos a ffeithluniau i’ch helpu i ddeall yr wybodaeth a gyflwynir.
Ar ddiwedd yr unedau bydd cwis cyflym i brofi’r hyn fyddwch chi wedi’i ddysgu. Mae hwnnw’n offeryn adolygu gwych hefyd.
Awdur: Sara Roberts