Cynnwys yr uned
Uned 1: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Eidion y DU
Croeso i’r adnodd rhyngweithiol Cynhyrchu Cig Eidion. Yn yr adnodd hwn, cewch gyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ddiwydiant cig eidion y DU.
0/6
Uned 1: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Eidion y DU

Bygythiadau presennol i ddiwydiant cig eidion y DU

 

Mae diwydiant cig eidion y DU yn wynebu bygythiadau o lawer o wahanol gyfeiriadau, gan gynnwys pwysau economaidd, ansicrwydd masnach, prinder llafur, rheoliadau amgylcheddol, a newid dewisiadau defnyddwyr. Mae ffermwyr dan bwysau cynyddol i gynhyrchu’n fwy cynaliadwy wrth gynnal proffidioldeb mewn marchnad gyfnewidiol ar yr un pryd.

Mae’n debygol y bydd gallu’r diwydiant i addasu i’r heriau hyn yn llywio ei ddyfodol, gydag arloesi mewn arferion ffermio, arallgyfeirio, a chymorth polisi effeithiol yn hanfodol ar gyfer goroesi.