Sgôr Cyflwr Corff
Dyma sut mae’n gweithio’n gyffredinol:
Yn ei hanfod, mae sgôr cyflwr corff yn rhoi cipolwg ar gyflwr cyffredinol dafad ac yn gymorth i wneud penderfyniadau o ran gofal a rheolaeth.
System Sgorio
Mae defaid yn cael eu sgorio ar raddfa o 1 i 5, fel arfer, gydag 1 yn denau iawn a 5 yn dew iawn. Efallai bydd rhai systemau’n defnyddio graddfeydd ychydig yn wahanol, ond mae’r syniad yn debyg.
Pwyntiau Asesu
I sgorio dafad, rhaid edrych ar rannau penodol o’i chorff, e.e. asgwrn cefn, asennau a chluniau. Rydych chi’n asesu faint o fraster a chyhyrau sy’n cwmpasu’r meysydd hyn:
Sgôr 1: Tenau iawn, esgyrn yn amlwg, heb lawer o fraster na chyhyrau.
Sgôr 2: Tenau, esgyrn gweladwy ond gydag ychydig o fraster yn eu gorchuddio.
Sgôr 3: Canolig neu ddelfrydol, nid yw’r esgyrn yn amlwg ac mae digon o fraster a chyhyrau.
Sgôr 4: Rhy drwm, mae gorchudd braster amlwg ac nid yw’r esgyrn yn weladwy.
Sgôr 5: Tew iawn, gormod o orchudd braster ac esgyrn yn amlwg.
Pwrpas
Mae sgorio yn helpu ffermwyr i reoli iechyd a chynhyrchiant eu diadell. Er enghraifft, efallai bydd defaid sy’n rhy denau angen mwy o borthiant neu ddeiet gwahanol i fagu pwysau, tra bod angen trefn fwydo wahanol ar ddefaid sy’n rhy dew efallai, er mwyn atal problemau iechyd.
Sut i bennu sgôr cyflwr corff
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut i asesu sgôr cyflwr corff.
Pryd i bennu sgôr cyflwr corff
Peidiwch ag anghofio’r hyrddod – anelwch i gael hwrdd ffit rhwng 3.5 a 4 wrth hwrdda. Mae’n bwysig cynnwys y sgôr cyflwr corff yn MOT yr hwrdd o leiaf 6 wythnos cyn y cyfnod hwrdda.
Os nad oes gan ddafad y sgôr cyflwr corff cywir yn ystod yr amseroedd penodol hyn yn y calendr, mae’n bwysig ei bod yn cael ei hynysu oddi wrth y ddiadell i dderbyn maeth a thriniaeth benodol i’w helpu i ennill neu golli cyflwr, lle bo hynny’n briodol.