Cloffni Mewn Diadelloedd
Nid dim ond effeithio ar iechyd a lles defaid unigol mae cloffni – mae hefyd yn effeithio ar ganlyniadau economaidd ffermwyr. Mae defaid cloff yn llai cynhyrchiol am eu bod yn bwyta llai, yn colli pwysau, neu yn llai ffrwythlon. Mewn achosion difrifol, gall cloffni cronig arwain at cwlio neu farwolaeth.
Y ffactorau amgylcheddol a all fod yn gyfrifol am gloffni yw amodau gwlyb a mwdlyd.
Pydredd traed
Haint bacteriol sy’n dechrau gyda llid rhwng y carnau ac sy’n gallu lledaenu i’r carn, gan achosi arogl drwg a chloffni difrifol. Mae’n ffynnu mewn amodau gwlyb a mwdlyd.
Sgald (dermatitis rhyngddigidol)
Carnau cragennog
Pan fydd haen allanol wal y carn yn gwahanu gan achosi i faw a cherrig ymgasglu yno ac achosi poen a chloffni.
Dermatitis Digidol Defeidiol Heintus (CODD)
Haint mwy ymosodol sy’n dechrau yn y band coronaidd (pen ucha’r carn) ac sy’n achosi difrod difrifol, weithiau gall arwain at golli’r carn hyd yn oed.
Sut i leihau cloffni
Rheoli:
Er mwyn lleihau cloffni, bydd ffermwyr yn canolbwyntio ar strategaethau atal a thriniaethau trwy ddilyn cynllun 5 pwynt.
Brechu
Gall brechlynnau yn erbyn pydredd traed leihau difrifoldeb heintiau a nifer yr achosion. Mae’n syniad da trafod gyda’ch milfeddyg i sefydlu cynllun brechu sy’n gweddu i’ch diadell a’ch system.
Trin
Y peth cyntaf i’w wneud er mwyn trin y ddafad yw gwneud diagnosis o’r clefyd. Bydd hyn yn galluogi’r ffermwr i roi triniaeth fwy effeithiol. Gall ymdrochi’r traed mewn baddonau sinc neu gopr sylffad leihau lledaeniad bacteria a heintiau.
Osgoi
Mae bacteria (e.e. Dichelobacter nodosus sy’n achosi pydredd traed) yn heintus ac yn lledaenu o’r tir, o droed i droed ac mae’r trosglwyddiad hwn i’w weld yn amlach mewn amodau llaith a chynnes. Mae’n hanfodol nad yw defaid yn ymgynnull yn yr un lle yn rhy aml, o amgylch cafnau a bwcedi mwynau, er enghraifft. Yr arfer gorau yw symud y rhain yn rheolaidd fel nad yw bacteria yn cronni yn yr ardaloedd hyn. Mae trin ardaloedd traffig uchel â chalch hydradol yn lladd bacteria a heintiau.
Cwarantin
Stoc sydd newydd ei brynu yw’r risg fwyaf o ddod â gwahanol fathau o bydredd traed a CODD i’r ddiadell. Mae’n hanfodol gwahanu anifeiliaid sy’n dod i mewn i’r fferm (boed nhw’n ddefaid sydd newydd gael eu prynu neu ddefaid cadw sy’n dychwelyd ar ôl y gaeaf) oddi wrth weddill y ddiadell am gyfnod o 28 diwrnod. Ar ôl cyrraedd yn ôl i’r fferm, byddai trochi traed y defaid mewn baddon traed ac archwilio am unrhyw arwyddion gweladwy yn arfer da, cyn iddynt fynd yn gloff.
Difa
Mae cwlio yn cyfeirio at y broses o ddewis defaid neu hyrddod er mwyn eu gwaredu o’r ddiadell, yn seiliedig ar feini prawf penodol. Gellir cwlio defaid a hyrddod am wahanol resymau, gyda materion iechyd yn un ohonyn nhw.