Uned 6: Iechyd a Lles Gwartheg Cig Eidion

Cloffni

 

Mae cloffni’n broblem iechyd a lles fawr sy’n arwain at ddiffyg cyflwr corff, cynhyrchu llaeth a ffrwythlondeb, yn ogystal â’r angen am gyfraddau amnewid uwch yn y fuches.

Isod ceir tabl o brif achosion cloffni mewn gwartheg cig eidion.

Cyflwr Symtomau ac achosion Triniaeth
Dermatitis carnol heintus Llid (bacteria) o’r croen o amgylch y carn – mae’n dechrau ar gefn y carn ond yn lledaenu Gwrthfiotig
Aflan y droed Llid (bacteria) rhwng y crafangau – arogl gwael pan yn cael ei wasgu Trochi’r traed (5% formalin)
Laminitis Llid o’r laminae – o dan wal gorniog allanol y droed – wedi’i achosi gan anaf corfforol neu ddiet dwysfwyd uchel Dogni’n gywir a chyflwyno diet egni uchel yn raddol

Y prif ffyrdd o atal y rhan fwyaf o’r materion cloffni hyn yw gofalu am draed y gwartheg yn rheolaidd trwy drimio carnau’n rheolaidd. Mae hyn yn galluogi ffermwyr i wybod yn gynnar a oes unrhyw broblemau, cyn i’r fuwch ddangos arwyddion o gloffni.

Gall golchi traed buchod gael gwared ar heintiau lefel isel, ac efallai y bydd yn rhaid dibynnu ar wrthfiotigau a chyngor milfeddyg mewn achosion difrifol neu ailadroddus.

Dylid cwlio anifeiliaid nad ydynt yn ymateb i driniaeth – dylai cloffni fod yn rhan o’r polisi cwlio.