Uned 6: Iechyd a Lles Gwartheg Cig Eidion

Asidosis

 

Mae asidosis mewn gwartheg cig eidion yn broblem dreulio sy’n cael ei achosi gan ormod o asid yn cronni yn y rwmen (y siambr gyntaf yn stumog y fuwch). Mae hyn yn digwydd pan fydd gwartheg yn bwyta gormod o fwyd sy’n eplesu’n gyflym. Mae’n gyffredin mewn systemau pesgi dwys.

Mathau o asidosis:

Asidosis Acíwt:

Ffurf sydyn a difrifol a all beryglu bywyd; byddai hyn yn fwyaf tebygol o fewn y deietau dwys neu rai â startsh uchel.  

Asidosis Rwmenol Is-acíwt (SARA):

Ffurf ysgafnach, barhaus a all barhau i achosi problemau tymor hir.

Symptomau

Asidosis Acíwt:

  • Colli archwaeth.
  • Syrthni neu wendid.
  • Dolur rhydd.
  • Poen yn y stumog.
  • Anhawster sefyll neu farwolaeth sydyn.

Asidosis Is-acíwt (SARA)

  • Cymryd porthiant yn wael.
  • Tail rhydd gyda bwyd heb ei dreulio.
  • Ennill pwysau’n araf.
  • Cyflwr côt gwael.
  • Mwy o risg o broblemau iechyd eraill fel problemau traed neu grawniadau yn yr afu.

Achosion

Deietau llawn dwysfwydydd: Gormod o ddwysfwydydd

Newidiadau cyflym i’r deiet: Newid yn rhy gyflym o ddeiet llawn ffeibr (fel glaswellt) i ddeiet llawn dwysfwydydd.

Ffeibr isel: Dim digon o frasfwyd yn y deiet i gadw’r rwmen yn iach.

Triniaethau

  • Cynyddu ffeibr yn y deiet.
  • Cyflwyno bwyd sy’n llawn dwysfwyd yn raddol.
  • Defnyddio byffer fel sodiwm bicarbonad i gadw pH y rwmen yn sefydlog.

Atal


Deiet cytbwys: Sicrhau cymysgedd o frasfwyd (glaswellt neu wair) a dwysfwydydd.

Newidiadau Graddol: Newid yn araf o ddeietau llawn ffeibr i ddeietau llawn dwysfwydydd dros ychydig wythnosau.

Bwyd bras: Osgoi bwydo bwyd mân sy’n eplesu’n rhy gyflym.

Ychwanegu byffrau: Defnyddio ychwanegion i atal asid rhag casglu