Uned 6: Iechyd a Lles Gwartheg Cig Eidion

Elfennau hybrin

 

Mae elfennau hybrin yn ficrofaetholion hanfodol sydd eu hangen mewn symiau bach ar wartheg cig eidion i gynnal iechyd, twf, atgenhedlu, a chynhyrchiant cyffredinol.

Er bod eu hangen mewn symiau bach, gall diffygion arwain at broblemau iechyd a pherfformiad difrifol.

Elfen Swyddogaeth Symptomau Diffygion Achosion Diffygion Dulliau Atchwanegiad
Copr (Cu)
  • Ffurfiant celloedd coch y gwaed
  • Gweithrediad imiwnedd
  • Iechyd esgyrn a’r system nerfol
  • Tyfiant gwael
  • Newidiadau I’r gôt (garw, afliwiedig)
  • Anffrwythlondeb
  • Anhywlderau esgyrn
  • Copr isel yn y pridd / porthiant
  • Molybdenwm, sylffwr neu haearn uchel sy’n ymyrryd ag amsugniad
  • Copr sylffad
  • Blociau mwynau
Cobalt (Co)
  • Elfen o fitamin B12
  • Metabolaeth egni
  • Ffurfiant celloedd coch y gwaed
  • Colli pwysau
  • Archwaeth gwael
  • Anemia
  • Pridd colbat-ddiffygiol (pridd tywodlyd, mawnaidd)
  • Drensio geneuol
  • Chwistrelliadau
  • Atchwanegiadau mwynau
Seleniwm (Se)
  • Gwrthocsidydd (gyda fitamin E)
  • Gweithrediad cyhyrol
  • Cefnogaeth imiwnedd
  • Pwd y cyhyrau
  • Tyfiant gwael
  • Brych wedi’i atal
  • Pridd seleniwm-ddiffygiol
  • Atchwanegiadau porthiant
  • Blociau mwynau wedi’u cyfoethogi â seleniwm
  • Chwistrelliadau
Sinc (Zn)
  • Iechyd y croen a’r carn
  • Gweithrediad imiwnedd
  • Synthesis protein
  • Cyflwr côt / croen gwael
  • Cloffni
  • Clwyf yn gwella’n araf
  • Sinc isel o fewn y diet
  • Calsiwm neu haearn uchel sy’n ymyrryd ag amsugniad
  • Sinc ocsid
  • Cymysgedd mwynau
Manganîs (Mn)
  • Ffurfiant yr esgyrn
  • Atgenhedliad
  • Actifiant ensym
  • Datblygiad esgyrn gwael
  • Anffrwythlondeb
  • Cloffni
  • Bwyd / porthiant sy’n isel mewn manganîs
  • Calsiwm neu ffosfforws uchel
  • Manganîs sylffad
  • Blociau mwynau
Ïodin (I)
  • Cynhyrchiad hormon thyroid
  • Rheoleiddio metaboledd
  • Goitr yn y lloi
  • Lloi gwan neu marw-anedig
  • Ffrwythlondeb gwael
  • Pridd Ïodin-ddiffygiol
  • Cnydau Brassica (goitrogen)
  • Halen gyda Ïodin ynddo
  • Atchwanegiadau mwynau
  • Chwistrelliadau Ïodin