Gwerthu neu gadw ŵyn?
Mae penderfynu a ddylid cadw neu werthu ŵyn yn benderfyniad pwysig i’r ffermwr defaid, gyda manteision i’r ddau ddewis ac ystyriaethau yn seiliedig ar ei nodau ffermio, adnoddau ac amodau’r farchnad.
Y brif ystyriaeth yw’r brid; rhaid edrych a yw’r anifail o’r brid neu’r croesfrid a ddymunir ar y fferm.
Gwerthu
Os nad yw ŵyn o frid neu groesfrid y gall y ffermwr fridio ohonynt, yna gwerthu’r ŵyn yw’r syniad gorau.
Manteision gwerthu’r ŵyn hyn yw:
- Llif Arian ar Unwaith: Mae gwerthu ŵyn yn creu incwm ar unwaith – incwm y gellir ei ail-fuddsoddi yn y fferm neu ei ddefnyddio i dalu costau gweithredu.
- Llai o Straen ar Adnoddau: Mae gwerthu yn lleihau’r galw am borfa, bwyd anifeiliaid a llafur, ac yn gyfle i weithio diadell o faint mwy cynaliadwy.
- Amseru’r Farchnad: Gall gwerthu ŵyn pan fyddant yn cyrraedd pwysau’r farchnad a’r prisiau’n ffafriol roi’r elw gorau heb fod angen rheolaeth hirdymor.
Cadw
Mae cadw ŵyn i’w defnyddio yn lle’r defaid anghynhyrchiol gaiff eu cwlio o’r praidd yn ddewis gwych. Y ffermwr yw perchennog yr ŵyn hyn a bydd eisoes yn gwybod hanes llawn yr anifeiliaid.
Dyma fanteision cadw’r ŵyn hyn:
- Gwella Diadell: Drwy gadw ŵyn gellir dewis yr anifeiliaid gorau i wella geneteg diadell, a gwella cynhyrchiant ac ansawdd yn gyffredinol.
- Bridio yn y Dyfodol: Mae cadw ŵyn yn sicrhau cyflenwad cyson o ddefaid yn lle’r rhai sy’n heneiddio neu’r rhai sy’n cael eu cwlio o’r ddiadell.
- Mwy o Werth yn y Dyfodol: Os bydd amodau’r farchnad yn gwella, gellir gwerthu ŵyn a gedwir am gyfnod hirach am bris uwch yn ddiweddarach, yn enwedig os ydynt wedi tyfu a phesgi ac felly, efallai bod cadw ŵyn am fwy o amser a gwerthu ar yr adeg gywir yn gallu bod yn fuddiol.