Gofalu am y famog a’r oen (ŵyn) ar ôl wyna nes eu bod yn cael eu troi allan
Ar ôl i famog wyna, ond cyn ei throi hi a’i hoen (ŵyn) allan i borfa, mae angen i fugail gyflawni sawl tasg bwysig i sicrhau iechyd a lles y famog a’i hoen (ŵyn) newydd-anedig. Mae’r tasgau hyn yn helpu i leihau risgiau, ysgogi bondio, a pharatoi’r anifeiliaid ar gyfer y newid i fyw yn yr awyr agored.
Dyma’r prif bethau sydd angen eu harchwilio o ran y famog a’i hoen (ŵyn) ar ôl wyna, tan y diwrnod y byddant yn cael eu troi allan.
Sicrhau Bondio
Yn syth ar ôl ŵyna, dylai’r bugail fonitro’r famog a’r oen (ŵyn) yn fanwl i sicrhau eu bod yn bondio. Dylai’r famog lyfu ei hoen, sy’n eu helpu i fondio ac yn ysgogi’r oen i sefyll a sugno. Bydd hyn yn cychwyn yn y gorlan fawr wrth wyna, ond rhaid parhau ar ôl mynd i gorlan unigol hefyd.
Cymeriant Colostrwm
Dylai oen ddechrau sugno cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn awr i gael ei eni, er mwyn llyncu colostrwm. Mae colostrwm yn llawn gwrthgyrff a maetholion sy’n hanfodol ar gyfer imiwnedd ac egni ŵyn. Os yw oen yn cael trafferth sugno, efallai bydd angen i’r bugail gynorthwyo drwy ei helpu i sugno’r deth neu drwy odro’r llaeth a bwydo’r oen gyda photel.
Gofalu am y Bogail
Archwilio’r Famog
Sbaddu a Thocio Cynffonnau
- Sbaddu: Os yw sbaddu ŵyn gwrywaidd yn rhan o drefn reoli, gwneir hyn ychydig ddyddiau ar ôl i ŵyn gael eu geni fel arfer, gan ddefnyddio cylch rwber neu ddulliau eraill. Fel rheol mae ŵyn yn cael eu sbaddu er mwyn rheoli ymddygiad diadell, sicrhau ansawdd cig ac er mwyn atal bridio diangen.
- Tocio Cynffonnau: Weithiau, bydd cynffonnau’n cael eu tocio i leihau’r risg o gynrhoni (cyflwr lle mae pryfed yn dodwy wyau yn y gwlân o amgylch y gynffon, gan arwain at blâu cynrhon). Gwneir hyn ychydig ddyddiau ar ôl geni ŵyn fel arfer, gan ddefnyddio cylch rwber.
Paru Mamogiaid ac Ŵyn
Mae rhifo neu baru mamogiaid ac ŵyn yn bwysig fel ei bod hi’n haws eu paru pan fyddant yn cael eu troi allan i bori. Os oes problem gydag oen, bydd hi’n hawdd dod o hyd i’w fam.
Troi i Loc Meithrin
Dyma pryd bydd mamog a’i hoen (wŷn) yn cael eu troi i gorlan fwy gyda mamogiaid ac ŵyn eraill. Mae hyn yn rhoi cyfle i ŵyn ddysgu dilyn a chanfod eu mam. Ar rai ffermydd, bydd defaid ag oen sengl yn cael eu troi o’r gorlan fawr yn syth i loc meithrin, heb gael eu rhoi mewn corlan unigol.
Tagio Ŵyn
Mae’n rhaid tagio ŵyn os ydynt wedi cael eu cofrestru gan gymdeithasau brid, ond dylid rhoi tag EID ar bob oen masnachol o fewn 9 mis cyntaf eu bywyd, neu cyn iddynt adael y fferm y cawsant eu geni arni, pa un bynnag ddaw gyntaf.