Cloffni
Mae cloffni’n broblem iechyd a lles fawr sy’n arwain at ddiffyg cyflwr corff, cynhyrchu llaeth a ffrwythlondeb, yn ogystal â’r angen am gyfraddau amnewid uwch yn y fuches.
Isod ceir tabl o brif achosion cloffni mewn gwartheg cig eidion.
| Cyflwr | Symtomau ac achosion | Triniaeth |
| Dermatitis carnol heintus | Llid (bacteria) o’r croen o amgylch y carn – mae’n dechrau ar gefn y carn ond yn lledaenu | Gwrthfiotig |
| Aflan y droed | Llid (bacteria) rhwng y crafangau – arogl gwael pan yn cael ei wasgu | Trochi’r traed (5% formalin) |
| Laminitis | Llid o’r laminae – o dan wal gorniog allanol y droed – wedi’i achosi gan anaf corfforol neu ddiet dwysfwyd uchel | Dogni’n gywir a chyflwyno diet egni uchel yn raddol |
Y prif ffyrdd o atal y rhan fwyaf o’r materion cloffni hyn yw gofalu am draed y gwartheg yn rheolaidd trwy drimio carnau’n rheolaidd. Mae hyn yn galluogi ffermwyr i wybod yn gynnar a oes unrhyw broblemau, cyn i’r fuwch ddangos arwyddion o gloffni.
Gall golchi traed buchod gael gwared ar heintiau lefel isel, ac efallai y bydd yn rhaid dibynnu ar wrthfiotigau a chyngor milfeddyg mewn achosion difrifol neu ailadroddus.
Dylid cwlio anifeiliaid nad ydynt yn ymateb i driniaeth – dylai cloffni fod yn rhan o’r polisi cwlio.