Uned 4: Blwyddyn y Bugail

Beichiogrwydd cynnar a chanol beichiogrwydd

 

Mae rheoli mamogiaid yn gywir yn ystod beichiogrwydd cynnar a chanol beichiogrwydd yn ymwneud â chynnal maeth cyson, lleihau straen, rheoli iechyd a pharasitiaid. Mae rhoi sylw i’r manylion hyn yn cefnogi datblygiad embryo llwyddiannus ac yn gosod y llwyfan ar gyfer tymor wyna cynhyrchiol.

Synwyryddion beichiogrwydd uwchsain

 

Mae synhwyrydd sganio uwchsain yn offeryn gwerthfawr i ffermwyr defaid, yn enwedig ar gyfer cadarnhau beichiogrwydd a gwybod faint o ŵyn gaiff eu geni. Trwy sganio mamogiaid yn ystod dyddiau beichiogrwydd 45-90, gall ffermwyr reoli maeth, iechyd a gofal eu diadell yn well, a fydd yn arwain at ganlyniadau wyna mwy llwyddiannus.

Manteision sganio

  • Rheoli Maeth: O wybod faint o ŵyn mae mamogiaid yn eu cario, gall ffermwr addasu bwyd y mamogiaid sy’n cario mwy nag un oen er mwyn sicrhau eu bod yn cael digon o faeth.
  • Rheolaeth Haws: Gellir gwahanu mamogiaid yn grwpiau canlyniadau sganio i’w gwneud hi’n haws i’r ffermwr reoli’r ddiadell.
  • Lleihau Cymhlethdodau wyna: Gellir rhoi gofal ychwanegol i famogiaid sydd â thripledi neu ragor er mwyn lleihau’r risg o anawsterau wyna (dystocia).
  • Cwlio a Rheoli: Gellir cwlio neu reoli defaid nad ydynt yn feichiog ar wahân i arbed adnoddau.
  • Cynllunio Cymorth Wyna: Gall ffermwyr ragweld pa famogiaid fydd efallai angen cymorth yn ystod wyna yn seiliedig ar faint o ŵyn maent yn eu cario.

Heriau sganio

  • Sgiliau: Mae angen profiad a sgiliau wrth weithredu’r peiriant uwchsain a dehongli’r delweddau er mwyn sganio’n llwyddiannus. Fel arfer bydd contractwr yn dod i’r fferm i gyflawni’r gwaith.
  • Cost: Gall buddsoddi mewn peiriant uwchsain neu logi sganiwr proffesiynol fod yn ddrud, ond mae’n aml yn talu ar ei ganfed drwy wella cyfraddau rheoli diadelloedd a goroesiad ŵyn.