Uned 4: Blwyddyn y Bugail

Systemau wyna

 

Gall y systemau hyn amrywio yn seiliedig ar ffactorau fel hinsawdd, maint y fferm, brid y defaid a pha adnoddau sydd ar gael.

Dyma rai systemau wyna cyffredin:

System Wyna Dan Do

  • Amgylchedd sy’n cael ei reoli: Mae mamogiaid ac ŵyn yn cael eu gwarchod rhag tywydd garw, sy’n gallu gwella cyfraddau goroesi ŵyn, yn enwedig mewn hinsoddau oer.
  • Monitro manwl: Gall ffermwyr fonitro’r mamogiaid yn fanwl yn ystod y cyfnod esgor, sy’n helpu i ganfod unrhyw anawsterau geni (dystocia) a helpu’r famog, a chanfod problemau iechyd yn gynnar.
  • Cyfraddau goroesi uwch: Mae ŵyn newydd-anedig yn llai agored i ysglyfaethwyr, straen oerfel a pheryglon awyr agored eraill, gan wella’u siawns o oroesi.
  • Amgylchedd glanach: Gellir cadw siediau yn lân ac yn sych, gan leihau’r risgiau o heintiau, e.e. niwmonia neu hypothermia.

  • Mwy o gostau: Mae angen buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer systemau wyna dan do (siediau, gwellt, porthiant, llafur) a gall costau llafur gynyddu gan fod angen goruchwyliaeth fanylach.
  • Clefydau: Pan fydd llawer o anifeiliaid yn cael eu cartrefu gyda’i gilydd dan do, gall y risg o drosglwyddo clefydau (e.e. heintiau anadlol) gynyddu os yw awyru’n wael neu os nad yw hylendid yn ddigonol.
  • Llafurddwys: Mae angen monitro a gofal cyson, yn enwedig yn ystod y prif gyfnod wyna, a all fod yn heriol yn gorfforol.

System Wyna Awyr Agored

  • Llai o gostau: Mae wyna awyr agored yn gofyn am lai o seilwaith ac adeiladau, gan leihau costau siediau a gwellt i’w roi o dan yr anifeiliaid.
  • Amgylchedd naturiol: Gall wyna awyr agored ddynwared amodau naturiol esblygiad yr anifeiliaid, gan ysgogi ymddygiad mamol cryf a lleihau straen ar y mamogiaid efallai.
  • Llai o waith: Yn gyffredinol, does dim angen cymaint o ymyrraeth ddynol uniongyrchol, sy’n arwain at lai o ofynion llafur.

  • Dibynnol ar y tywydd: Mae wyna yn yr awyr agored yn ddibynnol iawn ar dywydd ffafriol. Gall oerni, glaw neu wynt sydyn achosi marwolaethau o ganlyniad i hypothermia.
  • Ysglyfaethwyr: Mae ŵyn sy’n cael eu geni yn yr awyr agored yn fwy agored i ysglyfaethwyr, e.e. llwynogod neu adar ysglyfaethus.
  • Llai o oruchwyliaeth: Mae llai o gyfle i ymyrryd os oes cymhlethdodau wrth esgor, a allai arwain at fwy o famogiaid ac ŵyn mewn trallod yn marw.

System Wyna Gymysg neu Led-ddwys

  • Dull cytbwys: Mae’r system hon yn cyfuno manteision wyna dan do ac yn yr awyr agored. Gall ffermwyr amddiffyn mamogiaid yn ystod y cyfnodau tyngedfennol a manteisio hefyd ar lai o gostau ac amodau naturiol. Os yw’r ddiadell yn un aml-frid, yna gellir wyna bridiau gwahanol yn y mannau mwyaf addas i fridiau penodol.
  • Hyblygrwydd: Gall ffermwyr addasu’r system i amodau tywydd sy’n newid, symud mamogiaid dan do os oes angen neu eu cadw yn yr awyr agored pan fydd amodau’n ffafriol.
  • Llai o risg o glefydau: Trwy rannu amser rhwng bod dan do ac yn yr awyr agored, gellir lleihau’r risg o drosglwyddo clefydau o’i gymharu â systemau dan do llawn amser.

  • Rheolaeth gymhleth: Gall trefniadau rheoli mannau dan do ac yn yr awyr agored fod yn gymhleth, gan ofyn am fwy o gynllunio a chydlynu rhwng staff.
  • Goruchwyliaeth anghyson: Gan ddibynnu pryd mae mamogiaid dan do neu yn yr awyr agored, efallai na fydd ŵyn yn cael eu monitro’n fanwl a chyson gydol yr amser a hynny’n arwain at broblemau posibl a chymhlethdodau na sylwir arnynt.