Uned 3: Dysgu am Ddefaid

Polyestrws Tymhorol

Mae defaid yn profi cyfnodau penodol o weithgarwch ac anweithgarwch rhywiol bob blwyddyn. Mae defaid yn fridwyr diwrnod byr, yn bridio ar adegau o’r flwyddyn pan fydd y dydd yn fyr a’r nos yn hir (Polyestrws Tymhorol). Fel arfer, bydd defaid yn rhywiol weithgar ganol yr hydref i’r gaeaf, ac yn rhywiol anweithgar (anoestrws) o ddiwedd y gaeaf hyd at yr hydref. Mae’r diagram isod yn dangos y gylchred polyestrws.

Mae tymoroldeb yn sicrhau bod ŵyn yn cael eu geni ar yr adeg orau un (yn y gwanwyn), pan fydd ansawdd y borfa ar ei gorau i gefnogi llaethiad. Fodd bynnag, mae tymoroldeb yn gallu bod yn her mewn arferion ffermio modern wrth geisio cwrdd ag amseroedd cywir y farchnad er mwyn cael y prisiau cig oen gorau posibl, tra hefyd yn rheoli costau cynhyrchu.

Nid yw pob brid defaid yn bolyestrws tymhorol. Er bod llawer o fridiau defaid yn fridwyr tymhorol, mae rhai bridiau yn gallu bridio trwy gydol y flwyddyn ac yn cael eu dosbarthu fel rhai nad ydynt yn dymhorol, er enghraifft defaid Dorset Horn a Merino. Gall y defaid hyn wyna 3 gwaith mewn 2 flynedd.
Seasonal-Polyestrous