Wyna
Mae gan y broses ‘wyna’ (dafad yn esgor ar oen) sawl cam sy’n paratoi’r ddafad a’r oen/ŵyn at yr enedigaeth.
Dyma ddadansoddiad manwl o’r broses wyna:
Arwyddion Cyn-wyna

Fel arfer bydd mamog (dafad sy’n feichiog neu’n magu oen) yn rhoi arwyddion ei bod ar fin bwrw oen/esgor o fewn ychydig ddyddiau neu oriau cyn wyna.
Dyma rai o’r arwyddion:
- Datblygiad y Pwrs: Y pwrs yn chwyddo a gall ddechrau cynhyrchu colostrwm (y llaeth cyntaf).
- Y Fwlfa (‘Llawes Goch’) yn Chwyddo: Y fwlfa’n chwyddo ac yn binc ei lliw.
- Aflonyddwch: Y ddafad yn mynd oddi wrth y ddiadell, yn pystylad y ddaear ac yn gwingo neu’n ymddangos yn anghyfforddus efallai.
- Rhyddhau mwcws: Gall rhedlif clir neu gymylog arllwys o’r fwlfa wrth i wddf y groth ddechrau ymledu.
Esgor Cynnar (Ymlediad)

- Ymlediad Gwddf y Groth: Gwddf y groth yn dechrau agor wrth baratoi ar gyfer taith yr oen. Gall y cam hwn bara am sawl awr.
- Newidiadau Ymddygiad: Y famog yn gorwedd ac yn sefyll bob yn ail, dro ar ôl tro, ac yn gwingo efallai. Llyfu ei hochrau neu wneud mwy o sŵn nag arfer o bosib.
Esgor Gweithredol

- Cyfangiadau: Y famog yn profi cyfangiadau crothol cryf sy’n helpu i symud yr oen i’r llwybr geni.
- Bag Dŵr: Y cwd amniotig (bag dŵr) i’w weld yn fwlfa’r famog. Fel arfer mae’n torri ychydig cyn i’r oen gael ei eni, gan ryddhau hylif.
Genedigaeth yr Oen

- Safle’r Oen: Y safle wyna delfrydol yw’r pen yn gyntaf a’r ddwy goes flaen wedi’u hymestyn, a elwir weithiau yn safle “deifio”. Er hynny, mae oen yn gallu cael ei eni o safle arall ond efallai bydd angen help ar y famog.
- Ymwthiad: Gyda phob cyfangiad, mae’r oen yn symud ymhellach i lawr y llwybr geni. Fel arfer, bydd y famog yn gorwedd ar ei hochr wrth iddi wthio.
- Genedigaeth: Geni’r oen, y pen a’r coesau yn gyntaf gan amlaf. Efallai bydd y famog yn llyfu’r oen, i’w lanhau a’i annog i anadlu.
Ar Ôl yr Enedigaeth

- Glanhau’r Oen: Y famog yn parhau i lyfu’r oen er mwyn glanhau’r hylifau amniotig ac annog cylchrediad.
- Magu Perthynas: Y famog a’r oen yn uno, a’r oen yn dechrau chwilio’n reddfol am y deth i gael colostrwm.
- Bwrw’r Brych: Y famog yn bwrw’i brych, fel arfer ychydig oriau ar ôl geni’r oen. Mae’n bwysig sicrhau bod y famog yn bwrw’r brych cyfan i beidio cael haint.
Bydd y bennod nesaf yn trafod gofalu am y ddafad a’r oen.