Uned 3: Dysgu am Ddefaid

Anoestrws

 

Mae’r cyfnod anoestrws yn cyfeirio at yr amser yng nghylchred flynyddol y ddafad pan nad yw hi’n ofylu. Mae’r cyfnod hwn fel arfer yn dod ar ôl y cyfnod wyna. Pan fydd dafad wedi rhoi’r gorau i gynhyrchu llaeth, bydd ganddi gyfnod byr i ddod ati ei hun ac i sicrhau ei bod yn heini ac yn barod i fynd i mewn i gyfnod oestrws pan ddaw’r hydref.

Mae llawer o dasgau rheoli yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hyn yn cael ei esbonio yn y bennod nesaf.

A dyma pryd mae cylchred y ddafad yn dechrau eto!