Uned 4: Blwyddyn y Bugail

Gofalu am y famog a’r oen (ŵyn) ar ôl wyna nes eu bod yn cael eu troi allan

Ar ôl i famog wyna, ond cyn ei throi hi a’i hoen (ŵyn) allan i borfa, mae angen i fugail gyflawni sawl tasg bwysig i sicrhau iechyd a lles y famog a’i hoen (ŵyn) newydd-anedig. Mae’r tasgau hyn yn helpu i leihau risgiau, ysgogi bondio, a pharatoi’r anifeiliaid ar gyfer y newid i fyw yn yr awyr agored.

Mewn sied wyna dan do brysur mae yna lawer o famogiaid yn wyna ar yr un pryd, felly mae’n hanfodol gweithredu’n gyflym yn y corlannau mawr i atal defaid ac ŵyn rhag cymysgu. Ar ôl i’r famog wyna, y drefn orau yw ei symud i gorlan ar ei phen ei hun.
Adult woman with sheep working in barn

Dyma’r prif bethau sydd angen eu harchwilio o ran y famog a’i hoen (ŵyn) ar ôl wyna, tan y diwrnod y byddant yn cael eu troi allan.

Sicrhau Bondio

Yn syth ar ôl ŵyna, dylai’r bugail fonitro’r famog a’r oen (ŵyn) yn fanwl i sicrhau eu bod yn bondio. Dylai’r famog lyfu ei hoen, sy’n eu helpu i fondio ac yn ysgogi’r oen i sefyll a sugno. Bydd hyn yn cychwyn yn y gorlan fawr wrth wyna, ond rhaid parhau ar ôl mynd i gorlan unigol hefyd.

Cymeriant Colostrwm

Dylai oen ddechrau sugno cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn awr i gael ei eni, er mwyn llyncu colostrwm. Mae colostrwm yn llawn gwrthgyrff a maetholion sy’n hanfodol ar gyfer imiwnedd ac egni ŵyn. Os yw oen yn cael trafferth sugno, efallai bydd angen i’r bugail gynorthwyo drwy ei helpu i sugno’r deth neu drwy odro’r llaeth a bwydo’r oen gyda photel.

Gofalu am y Bogail

Dylid trin y llinyn bogail gyda gyda hydoddiant ïodin neu antiseptig yn fuan ar ôl i’r oen gael ei eni. Mae hyn yn gymorth i atal heintiau a achosir gan facteria fynd i mewn i gorff yr oen trwy’r bogail.

Archwilio’r Famog

Sicrhau Llaethiad Digonol: Dylai’r bugail wirio hefyd bod y famog yn cynhyrchu llaeth ac nad yw ei phwrs yn gorlenwi nac yn dioddef o fastitis.

Sbaddu a Thocio Cynffonnau

  • Sbaddu: Os yw sbaddu ŵyn gwrywaidd yn rhan o drefn reoli, gwneir hyn ychydig ddyddiau ar ôl i ŵyn gael eu geni fel arfer, gan ddefnyddio cylch rwber neu ddulliau eraill. Fel rheol mae ŵyn yn cael eu sbaddu er mwyn rheoli ymddygiad diadell, sicrhau ansawdd cig ac er mwyn atal bridio diangen.
  • Tocio Cynffonnau: Weithiau, bydd cynffonnau’n cael eu tocio i leihau’r risg o gynrhoni (cyflwr lle mae pryfed yn dodwy wyau yn y gwlân o amgylch y gynffon, gan arwain at blâu cynrhon). Gwneir hyn ychydig ddyddiau ar ôl geni ŵyn fel arfer, gan ddefnyddio cylch rwber.

Paru Mamogiaid ac Ŵyn

Mae rhifo neu baru mamogiaid ac ŵyn yn bwysig fel ei bod hi’n haws eu paru pan fyddant yn cael eu troi allan i bori. Os oes problem gydag oen, bydd hi’n hawdd dod o hyd i’w fam.

Troi i Loc Meithrin

Dyma pryd bydd mamog a’i hoen (wŷn) yn cael eu troi i gorlan fwy gyda mamogiaid ac ŵyn eraill. Mae hyn yn rhoi cyfle i ŵyn ddysgu dilyn a chanfod eu mam. Ar rai ffermydd, bydd defaid ag oen sengl yn cael eu troi o’r gorlan fawr yn syth i loc meithrin, heb gael eu rhoi mewn corlan unigol.

Tagio Ŵyn

Mae’n rhaid tagio ŵyn os ydynt wedi cael eu cofrestru gan gymdeithasau brid, ond dylid rhoi tag EID ar bob oen masnachol o fewn 9 mis cyntaf eu bywyd, neu cyn iddynt adael y fferm y cawsant eu geni arni, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Paratoi ar Gyfer Troi Allan

Dylai bugail asesu amodau’r tywydd ac ansawdd y borfa cyn troi anifeiliaid allan. Dylid troi allan ar ddiwrnod sych pan fo’r tywydd yn fwyn i leihau straen a’r perygl o hypothermia mewn ŵyn ifanc. Argymhellir troi allan yn y bore er mwyn i ŵyn gael digon o amser i ddysgu dilyn eu mam cyn iddi nosi.

Archwiliad Iechyd Olaf Cyn Troi Allan

Dylid archwilio mamogiaid ac ŵyn am y tro olaf er mwyn sicrhau eu bod yn iach, yn egnïol ac yn barod i gael eu troi allan. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr ŵyn yn gryf, wedi bod yn bwydo’n dda, a heb unrhyw arwyddion o salwch.