Gwybodaeth am yr uned
Mae iechyd a lles gwartheg sy'n tyfu yn cael effaith fawr ar eu proffidioldeb. Mae'r rhan fwyaf o glefydau gwartheg sy'n tyfu yn achosi mân lid yn unig ac maent yn effeithio ar dwf a phesgi, ond gall eraill gael effeithiau llawer mwy difrifol, neu arwain at glefydau mwy niweidiol neu farwol.
Fel arfer, mae'r clefydau a welir mewn gwartheg sy’n tyfu yn perthyn i'r categorïau canlynol:
- Cloffni
- Niwmonia
- Parasitiaid mewnol
- Gastroenteritis parasitig (llyngyr perfedd)
- Llyngyr yr ysgyfaint (yr hach)
- Ffliwc yr iau
- Asidosis
- Elfennau hybrin
Mae'n rhaid archwilio gwartheg fel mater o drefn – o leiaf bob dydd – gyda llygad craff er mwyn atal neu reoli'r problemau hyn.
Bydd yr uned hon yn edrych ar bob un o'r materion hyn yn fanylach.
Awdur: Sara Roberts