Cyfnod cyfebru/beichiogrwydd
Mae dafad yn feichiog am 152 diwrnod ond gall hyn amrywio, yn dibynnu ar ffactorau amgylcheddol a’r brid.
Mae’r graff isod yn dangos twf y ffetws, datblygiad y pwrs a’r brych. Gellir gweld yn glir pa mor gyflym mae’r ffetws yn tyfu yn ystod 6 wythnos olaf y beichiogrwydd.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y ddafad ar raglen reoli’r bugail. Byddwn yn edrych ar y gweithdrefnau rheoli hyn yn y bennod nesaf.